Abstract
Pwrpas
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio canfyddiadau staff prifysgol o hyfforddiant moesol a moesegol ar raglenni lle bydd graddedigion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned, megis plismona a gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol.
Cynllun/methodoleg/dull
Casglwyd data ansoddol drwy sesiynau ffocws lled-strwythuredig gyda staff o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Gwirfoddolodd pum cyfranogwr o bob rhan o’r sefydliadau i gymryd rhan.
Canfyddiadau
Mae addysg uwch yn offeryn gwerthfawr ar gyfer addysg foesol a moesegol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer rolau sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned. Ymhlith yr ystyriaethau allweddol yr oedd y berthynas rhwng ontolegau personol a ffiniau proffesiynol, mannau diogel i fynd i’r afael â materion moesegol cymhleth a rhagfarn ddiarwybod a pharatoi myfyrwyr gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn o ymarfer. Lluniodd yr academyddion eu hunaniaethau drwy eu rolau proffesiynol; mae hyn yn effeithio ar eu hontolegau personol ac ar eu haddysgu.
Goblygiadau ymarferol
- Mae prifysgolion yn gyfryngau pwysig ar gyfer llunio hunaniaeth broffesiynol o amgylch sgaffald safonau proffesiynol, codau ymarfer a deddfwriaeth.
- Mae addysg foesol a moesegol yn cynnig y cyfle i gefnogi myfyrwyr i deimlo eu bod wedi’u grymuso i wthio’n ôl yn erbyn dylanwadau cymdeithasol normadol pan fyddant yn cyrraedd cyflogaeth.
- Mae angen mannau diogel o fewn prifysgolion i staff a myfyrwyr drafod materion moesol a moesegol sy’n codi yn ymarferol.
- Gall modelau goruchwylio clinigol fod yn dempled defnyddiol ar gyfer goruchwylio staff a myfyrwyr mewn lleoliadau addysg uwch.
Gwreiddioldeb
Mae gwaith ymchwil blaenorol yn y maes hwn wedi canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant moesol a moesegol o fewn gweithwyr proffesiynol cymunedol cymwysedig yn hytrach nag o fewn ystafelloedd dosbarth addysg uwch. Nid yw’r awydd am oruchwyliaeth hefyd wedi’i gofnodi’n eang o fewn y meysydd hyn.
Keywords: goruchwyliaeth glinigol, ymarfer proffesiynol, addysg uwch, moeseg, addysg
How to Cite:
Allen-Walker, L. & Williams, D., (2026) “Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned”, Wales Journal of Education 28(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.28.1.6cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
33 Views
3 Downloads