Research Articles (Welsh)

Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned

Authors

Abstract

Pwrpas 
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio canfyddiadau staff prifysgol o hyfforddiant moesol a moesegol ar raglenni lle bydd graddedigion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned, megis plismona a gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol.

Cynllun/methodoleg/dull
Casglwyd data ansoddol drwy sesiynau ffocws lled-strwythuredig gyda staff o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Gwirfoddolodd pum cyfranogwr o bob rhan o’r sefydliadau i gymryd rhan.

Canfyddiadau 
Mae addysg uwch yn offeryn gwerthfawr ar gyfer addysg foesol a moesegol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer rolau sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned. Ymhlith yr ystyriaethau allweddol yr oedd y berthynas rhwng ontolegau personol a ffiniau proffesiynol, mannau diogel i fynd i’r afael â materion moesegol cymhleth a rhagfarn ddiarwybod a pharatoi myfyrwyr gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn o ymarfer. Lluniodd yr academyddion eu hunaniaethau drwy eu rolau proffesiynol; mae hyn yn effeithio ar eu hontolegau personol ac ar eu haddysgu.

Goblygiadau ymarferol 

Gwreiddioldeb 
Mae gwaith ymchwil blaenorol yn y maes hwn wedi canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant moesol a moesegol o fewn gweithwyr proffesiynol cymunedol cymwysedig yn hytrach nag o fewn ystafelloedd dosbarth addysg uwch. Nid yw’r awydd am oruchwyliaeth hefyd wedi’i gofnodi’n eang o fewn y meysydd hyn.

Keywords: goruchwyliaeth glinigol, ymarfer proffesiynol, addysg uwch, moeseg, addysg

How to Cite: Allen-Walker, L. & Williams, D. (2026) “Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned”, Wales Journal of Education. 28(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.28.1.6cym

None