Skip to main content
Research Articles (Welsh)

Rhwystrau ac atebion i weithredu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yng Nghymru

Authors

Abstract

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn canolbwyntio ar bedwar diben, sy’n adlewyrchu gwerthoedd a nodau addysgol. Yn ategu’r pedwar diben mae pwyslais ar ymreolaeth athrawon wrth gynllunio’r cwricwlwm. Athrawon sy’n gyfrifol am ddehongli a gweithredu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru wrth iddo gael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022 ymlaen. Ar sail saith cyfweliad ag athrawon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, mae’r papur hwn yn dadlau’r achos bod gofyn i athrawon gyflawni tasg gymhleth a fyddai’n elwa ar gymorth arbenigol. Rydym yn awgrymu tri adnodd athronyddol a allai fynd i’r afael â’r heriau hyn a chaniatáu i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei weithredu mewn ffordd sy’n blaenoriaethu ei bedwar diben.

Keywords: cwricwlwm i gymru, athroniaeth addysg, pedwar diben, gwerthoedd addysgol

How to Cite:

Gatley, J. & Oostendorp-Godfrey, J., (2026) “Rhwystrau ac atebion i weithredu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yng Nghymru”, Wales Journal of Education 28(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.28.1.5cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

24 Views

2 Downloads