Abstract
Yn sgil darparu addysg yn y cartref i blant yn ystod pandemig COVID-19, symudodd y rhyngweithio cyfarwydd rhwng ysgolion a rhieni i realiti newydd ar-lein, gan ein gorfodi i ailystyried agweddau a oedd wedi ennill eu plwyf ac weithiau wedi bwrw eu gwreiddiau yn ddwfn. Mae’r papur hwn yn ymchwilio i’r safbwyntiau ar brofiadau bywyd rhieni ac athrawon wrth iddynt drafod y cyfnod dysgu gartref, gan bwyso ar themâu sy’n pwysleisio’r ffactorau sy’n angenrheidiol ar gyfer perthnasoedd effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol ac ar gyfer rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid. Mae’r negeseuon hyn yn darparu gwersi gwerthfawr sy’n berthnasol i’r perthnasoedd rhwng y cartref a’r ysgol yn yr oes ôl-COVID. Mae’r angen am wybodaeth a dealltwriaeth glir, partneriaethau perthynol a chyfathrebu effeithiol yn ganolog i’r canlyniadau a’r casgliadau.
Keywords: perthnasoedd rhwng y cartref a’r ysgol, rôl rhieni, rôl athrawon, cyfathrebu, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cwricwlwm
How to Cite:
Davies, P. M., Waters-Davies, J. & Underwood, C., (2026) “Rhieni, Athrawon a’r Pandemig – Gwersi o brofiad COVID yng Nghymru ar gyfer partneriaethau rhwng y cartref a’r ysgol”, Wales Journal of Education 28(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.28.1.4cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
30 Views
2 Downloads