Abstract
Yn ystod y pandemig COVID-19, collodd nifer o blant fynediad at amgylcheddau gofal cyfoethog eu hiaith a ddarperid gan bobl ar wahân i rieni – amgylcheddau sy’n hollbwysig ar gyfer datblygiad iaith gynnar. Mae’r plant hyn bellach yn 5-8 oed, mewn addysg amser llawn, ac ychydig iawn a ddeellir am yr effeithiau y gall anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu eu cael ar eu llesiant, eu hannibyniaeth yn yr ysgol a’u cynnydd yn gyffredinol. Nod yr adolygiad hwn oedd cyfuno tystiolaeth a fodolai eisoes ynglŷn â chyffredinrwydd anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu a materion llesiant plant ymhlith 5-8 oed, gyda’r dystiolaeth honno’n deillio o ymchwil a gyhoeddwyd ers y pandemig. Yn benodol, roedd yr adolygiad yn awyddus i archwilio’r dystiolaeth ryngwladol sydd ar gael ynghyd ag ystyried sut mae Cymru yn cymharu pan fo modd, gan gydnabod ar yr un pryd bod data cymaradwy yn gyfyngedig. Ymhellach, roedd yr adolygiad yn ceisio nodi ymyriadau ac offer asesu penodol a ddefnyddir i ategu anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu plant 5-8 oed a’u llesiant dilynol. Cadwodd yr adolygiad systemig at y fframwaith PRISMA a defnyddiwyd y fframwaith PICO i lywio’r cwestiynau ymchwil a’r strategaeth chwilio. Defnyddiwyd yr Offeryn Arfarnu Dull Cymysg (MMAT) a Rhestr Wirio JBI ar gyfer Arfarnu Beirniadol i werthuso’r astudiaethau a gynhwyswyd. Ar ôl cymhwyso’r meini prawf cynnwys, cafodd 12 papur eu cynnwys yn yr adolygiad. Oherwydd natur heterogenaidd yr astudiaethau, mabwysiadwyd synthesis naratif i’w ddadansoddi. Dangosodd y canfyddiadau fod y maes ymchwil yn gyfyngedig o ran dull cyson o ymdrin ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu a materion llesiant ar gyfer y grŵp oedran hwn. Er bod y canlyniadau’n dangos bod cysylltiadau clir rhwng Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu plant a’u llesiant, nid oes unrhyw safon gyffredinol ar gyfer asesu anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac ni ddaethpwyd o hyd i astudiaethau ymyrraeth penodol yn ymwneud â datblygiad iaith ar gyfer y boblogaeth hon. Dangosodd y canfyddiadau fod mynediad at wasanaethau, argaeledd adnoddau, a ffactorau economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu’n fawr ar adnabod a rheoli anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu.
Keywords: lleferydd, iaith, cyfathrebu, oedi mewn datblygu iaith, llesiant, COVID-19
How to Cite:
Jones, A. R., Tiesteel, E. & Storey, C., (2026) “Adolygiad Systematig o Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu Plant 5-8 oed: Y Goblygiadau i Gymru a Thu Hwnt”, Wales Journal of Education 28(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.28.1.2cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
31 Views
3 Downloads