Research Articles (Welsh)

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a’r Cwricwlwm i Gymru (2022): Synergeddau a Chyfleoedd

Authors: Clive Underwood orcid logo (Prifysgol Bangor) , Enlli Thomas (Prifysgol Bangor) , Anne-Marie Smith orcid logo (Prifysgol John Moores Lerpwl) , Nia Williams (Prifysgol Bangor) , Fliss Kyffin (Prifysgol Bangor) , Nia Young (Prifysgol Bangor)

  • Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a’r Cwricwlwm i Gymru (2022): Synergeddau a Chyfleoedd

    Research Articles (Welsh)

    Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a’r Cwricwlwm i Gymru (2022): Synergeddau a Chyfleoedd

    Authors: , , , , ,

Abstract

Yn y papur hwn, rydym yn amlinellu’r maes academaidd a elwir yn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, maes amlddisgyblaethol a rhyngwladol sy’n rhoi profiad bywyd plant a phobl ifanc wrth galon a chraidd trafodaethau, ymchwil ac ymarfer. Dros y 30-40 mlynedd diwethaf, mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid wedi datblygu’n faes ysgolheictod arwahanol sy’n cael ei ddylanwadu gan syniadau sy’n deillio o feysydd cymdeithaseg, anthropoleg, seicoleg, daearyddiaeth a hanes. Mae ein papur yn trafod pa mor berthnasol yw’r syniadau allweddol hyn i waith athrawon ac arweinwyr ysgolion o fewn cyd-destun y Cwricwlwm i Gymru (2022), lle rhoddir y plentyn wrth galon a chraidd dull cyfannol o ymdrin ag addysg. Mae hyn yn cynnig cyfle i gydnabod synergeddau posibl rhwng addysg ac Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid fel disgyblaethau perthynol a chydategol.

Awgrymwn fod yna ddadl y dylai pob athro a darparwr addysg gychwynnol i athrawon (AGA) ddeall Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac ymwneud â’r maes academaidd hwn – maes sy’n canolbwyntio ar gydnabod bod plant a phobl ifanc yn fodau cymdeithasol a chanddynt hawliau a galluedd mewn cymdeithas. Tynnwn sylw at faterion a meysydd allweddol sy’n berthnasol i waith athrawon, arweinwyr ysgolion ac addysgwyr ar draws gwahanol gyd-destunau, gan ddangos sut y gall Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid weithredu fel pont rhwng ysgolion a byd cymdeithasol ehangach plant a phobl ifanc, trwy gyfrwng ymchwil ac addysgu sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid cyfoes. Fel gwrwˆ p o ddarlithwyr sy’n addysgu cyrsiau gradd ac ôl-radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, cynigiwn fod angen gwell deialog a dealltwriaeth rhwng Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid fel maes ysgolheictod ar y naill law ac addysg gychwynnol i athrawon ar y llaw arall.

Keywords: Addysg, Addysg Gychwynnol i Athrawon, Astudiaethau Plentyndod, Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, Cwricwlwm i Gymru 2022, Cysylltiadau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac Addysg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Synergeddau, Amlddisgyblaethol

How to Cite:

Underwood, C., Thomas, E., Smith, A., Williams, N., Kyffin, F. & Young, N., (2024) “Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a’r Cwricwlwm i Gymru (2022): Synergeddau a Chyfleoedd”, Wales Journal of Education 26(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.1.1cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

46 Views

7 Downloads

Published on
22 Aug 2024
Peer Reviewed