Research Articles (Welsh)

Archwilio Lluniad Disgyrsiol Hunaniaeth Genedlaethol trwy Greu’r Cwricwlwm i Gymru Newydd

Author: Alys Lowri Roberts (University of Cambridge)

  • Archwilio Lluniad Disgyrsiol Hunaniaeth Genedlaethol trwy Greu’r Cwricwlwm i Gymru Newydd

    Research Articles (Welsh)

    Archwilio Lluniad Disgyrsiol Hunaniaeth Genedlaethol trwy Greu’r Cwricwlwm i Gymru Newydd

    Author:

Abstract

Mae Cymru ynghanol ei chyfnod o ddiwygio addysgol mwyaf erioed, a hynny ar ffurf cwricwlwm newydd. Mae’r diwygio hwnnw wedi arwain at amlygiad themâu niferus o hunaniaeth a chenedl, a’r defnydd ohonynt. Mae’r erthygl hon yn defnyddio dadansoddiad disgwrs Foucauldaidd i arch­ wilio lluniad disgyrsiol hunaniaeth genedlaethol wrth greu’r cwricwlwm newydd. Trwy leoli ac archwilio sut y caiff hunaniaeth dysgwyr ei godd­ rychu, mae’r papur yn trafod y potensial ar gyfer hunaniaeth a pherthyn o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’n nodi hunaniaeth fel rhywbeth amry­ wiol, newidiol, gofodol a strategol, ac yn archwilio canlyniadau posibl y lluniadau disgyrsiol hyn. Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod disgyrsiau o’r fath yn rhyngweithio â’i gilydd, ac yn gysylltiedig â’i gilydd, ond bod potensial iddynt wrthdaro a gwrth­ddweud ei gilydd hefyd. Mae’r prosiect yn nodi llawer o gymhlethdodau ac arlliwiau o ran themâu hunaniaeth a pherthyn o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’r gwaith yn canfod potensial i berthyn yn ogystal â rhwystrau fel dieithrio ac allgáu. Yn olaf, mae’n gofyn am rywfaint o bwyll ynglŷn â’r syniad bod modd i bob dysgwr oresgyn y rhwystrau hyn wrth weithredu’r cwricwlwm newydd.

Keywords: hunaniaeth, hunaniaeth genedlaethol, perthyn, Cymru, Foucault, cwricwlwm, dadansoddiad disgwrs Foucauldaidd

How to Cite:

Roberts, A. L., (2023) “Archwilio Lluniad Disgyrsiol Hunaniaeth Genedlaethol trwy Greu’r Cwricwlwm i Gymru Newydd”, Wales Journal of Education 25(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.1.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

282 Views

68 Downloads

Published on
13 Jul 2023
Peer Reviewed