Research Articles (Welsh)

Sut mae cyflawni’r trydydd gofod? Heriau a chryfderau gwaith partneriaeth i ddarparu Rhaglen TAR hyblyg yng Nghymru

Authors: Alison Glover orcid logo (Open University) , Sarah Stewart orcid logo (Open University) , Angela Thomas (Fitzalan High School) , Rachel Thomas (Hawarden Village Church School)

  • Sut mae cyflawni’r trydydd gofod? Heriau a chryfderau gwaith partneriaeth i ddarparu Rhaglen TAR hyblyg yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Sut mae cyflawni’r trydydd gofod? Heriau a chryfderau gwaith partneriaeth i ddarparu Rhaglen TAR hyblyg yng Nghymru

    Authors: , , ,

Abstract

Mae pwerau dros addysg a hyfforddiant wedi cael eu datganoli i Gymru. Bu llawer o ffocws ar ansawdd addysg a ffactorau cysylltiedig yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae system addysg y genedl yn symud o un ‘reolaethol’ i fod yn fwy seiliedig ar ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb. Cydnabyddir fwyfwy fod yr ymdrechion sydd ar waith i sicrhau bod y diwygiadau addysg hyn yn gydlynol ac yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol yn mynd rhagddynt yn llwyddiannus. Mae diwygiadau i Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru yn darparu enghreifftiau o’r cynnydd llwyddiannus hwn. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth rhaglenni AGA bellach yn cael eu harwain gan bartneriaethau o brifysgol yn cydweithio ag ysgolion partner arweiniol. Mae dull gweithredu dysgu o bell hyblyg newydd rhaglen TAR dwy flynedd Partneriaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru yn dangos llwyddiant o’r fath, gyda’r myfyrwyr yn astudio TAR rhan-amser neu gyflogedig. Defnyddir damcaniaeth trydydd gofod i ystyried sut mae gwaith partneriaeth cydweithredol gwirioneddol effeithiol a theg yn cael ei gyflawni. Mynegodd ugain o randdeiliaid farn am heriau a chryfderau partneriaeth newydd y Brifysgol Agored yn ystod y cam datblygu a’r cyfnod gweithredu cynnar. Mae’r heriau cynnar yn canolbwyntio ar brosesau, megis materion cyfathrebu a nifer dogfennau’r rhaglen. Cydnabuwyd bod y pandemig Covid-19 byd-eang wedi bod yn ffactor cyfrannol i rai o’r pryderon a fynegwyd. Mae cryfderau gweledigaeth gyffredin glir, cydlunio deunyddiau rhaglenni a llywodraethu cydweithredol yn dangos y cynnydd cadarnhaol y mae’r rhaglen TAR newydd yn ei wneud tuag at fodoli yn y ‘trydydd gofod’. Mae’r astudiaeth hon yn cynnig dysgu pwysig i’r bartneriaeth dan sylw ac i eraill ei hystyried wrth i waith partneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion ennill momentwm o fewn AGA.

Keywords: Addysg Gychwynnol Athrawon, Partneriaeth, Trydydd gofod, Cymru

How to Cite:

Glover, A., Stewart, S., Thomas, A. & Thomas, R., (2023) “Sut mae cyflawni’r trydydd gofod? Heriau a chryfderau gwaith partneriaeth i ddarparu Rhaglen TAR hyblyg yng Nghymru”, Wales Journal of Education 25(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.1.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

138 Views

32 Downloads

Published on
13 Jul 2023
Peer Reviewed