Research Articles (Welsh)
Authors: Alison Glover (Open University) , Sarah Stewart (Open University) , Angela Thomas (Fitzalan High School) , Rachel Thomas (Hawarden Village Church School)
Mae pwerau dros addysg a hyfforddiant wedi cael eu datganoli i Gymru. Bu llawer o ffocws ar ansawdd addysg a ffactorau cysylltiedig yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae system addysg y genedl yn symud o un ‘reolaethol’ i fod yn fwy seiliedig ar ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb. Cydnabyddir fwyfwy fod yr ymdrechion sydd ar waith i sicrhau bod y diwygiadau addysg hyn yn gydlynol ac yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol yn mynd rhagddynt yn llwyddiannus. Mae diwygiadau i Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru yn darparu enghreifftiau o’r cynnydd llwyddiannus hwn. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth rhaglenni AGA bellach yn cael eu harwain gan bartneriaethau o brifysgol yn cydweithio ag ysgolion partner arweiniol. Mae dull gweithredu dysgu o bell hyblyg newydd rhaglen TAR dwy flynedd Partneriaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru yn dangos llwyddiant o’r fath, gyda’r myfyrwyr yn astudio TAR rhan-amser neu gyflogedig. Defnyddir damcaniaeth trydydd gofod i ystyried sut mae gwaith partneriaeth cydweithredol gwirioneddol effeithiol a theg yn cael ei gyflawni. Mynegodd ugain o randdeiliaid farn am heriau a chryfderau partneriaeth newydd y Brifysgol Agored yn ystod y cam datblygu a’r cyfnod gweithredu cynnar. Mae’r heriau cynnar yn canolbwyntio ar brosesau, megis materion cyfathrebu a nifer dogfennau’r rhaglen. Cydnabuwyd bod y pandemig Covid-19 byd-eang wedi bod yn ffactor cyfrannol i rai o’r pryderon a fynegwyd. Mae cryfderau gweledigaeth gyffredin glir, cydlunio deunyddiau rhaglenni a llywodraethu cydweithredol yn dangos y cynnydd cadarnhaol y mae’r rhaglen TAR newydd yn ei wneud tuag at fodoli yn y ‘trydydd gofod’. Mae’r astudiaeth hon yn cynnig dysgu pwysig i’r bartneriaeth dan sylw ac i eraill ei hystyried wrth i waith partneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion ennill momentwm o fewn AGA.
Keywords: Addysg Gychwynnol Athrawon, Partneriaeth, Trydydd gofod, Cymru
How to Cite: Glover, A. , Stewart, S. , Thomas, A. & Thomas, R. (2023) “Sut mae cyflawni’r trydydd gofod? Heriau a chryfderau gwaith partneriaeth i ddarparu Rhaglen TAR hyblyg yng Nghymru”, Wales Journal of Education. 25(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.1.2cym