Abstract
CRYNODEB ACADEMAIDD
Am y tro cyntaf, ymchwiliodd yr astudiaeth bresennol i rôl gyfunol hunanreolaeth, cymhelliant ac ymdrech feddyliol wrth ragweld dysgu myfyrwyr israddedig o ddarlith addysg uwch ar ffurf cyflwyniad dwyawr. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 62 o fyfyrwyr, mewn darlith Hyfforddi Chwaraeon blwyddyn olaf BSc israddedig, a gwblhaodd holiaduron yn mesur: hunanreolaeth cyflwr yn ystod y ddarlith; dull meistrolaeth a chymhelliant osgoi perfformiad tuag at ddysgu pwnc y cwrs; ymdrech feddyliol a wnaed yn ystod y ddarlith; a’r gallu i gofio cynnwys yn syth ar ôl y ddarlith (h.y., dysgu). Datgelodd dadansoddiadau cyfryngu wedi’u cymedroli fod angen lefelau uwch o hunanreolaeth cyflwr (newidyn W) er mwyn i fyfyrwyr drawsffurfio eu cymhelliant (newidyn X; dull meistrolaeth neu osgoi perfformiad) i ymdrech feddyliol (newidyn M) er budd eu dysgu (newidyn Y) yn ystod y ddarlith. Trafodir llwybrau ar gyfer ymyriadau cymhwysol i ysgogi myfyrwyr a chynyddu eu hadnoddau hunanreolaeth mewn amgylcheddau addysg uwch.
CRYNODEB YMARFEROL
Ymchwiliodd yr astudiaeth bresennol i effaith gyfunol ffactorau seicolegol amrywiol ar ddysgu myfyrwyr israddedig o ddarlith; roedd y ffactorau hyn yn cynnwys hunanreolaeth (h.y., eu gallu i ddiystyru ymddygiad byrbwyll), cymhelliant (h.y., eu hawydd i gyflawni), ac ymdrech feddyliol (h.y., pa mor galed maen nhw’n ffocysu/canolbwyntio). Cyfranogodd cyfanswm o 62 o fyfyrwyr mewn darlith ddwyawr o hyd, gan gwblhau holiaduron ar y ffactorau seicolegol uchod, a chwblhau prawf yn syth ar ôl y ddarlith i asesu eu dysgu. Dangosodd dadansoddiadau ystadegol fod angen lefelau uwch o hunanreolaeth er mwyn i fyfyrwyr drawsnewid eu cymhelliant yn ymdrech feddyliol er budd eu dysgu. Trafodir ymyriadau cymhwysol posibl i ysgogi myfyrwyr a chynyddu eu hadnoddau hunanreolaeth mewn amgylcheddau addysgol.
Keywords: Addysgu, Hunanreolaeth, Dusgy, Ego-wanhau, Cymhelliant, Darlith, Addysg Uwch, Addysg
How to Cite:
Owen, R., Blanchfield, A. & Gottwald, V., (2022) “Rhagweld cyfraddau dysgu myfyrwyr israddedig mewn darlith: Rôl hunanreolaeth, cymhelliant, ac ymdrech feddyliol”, Wales Journal of Education 24(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.1.4cym
Downloads:
Download PDF
View PDF