Research Articles (Welsh)

Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan

Authors: Dylan Adams orcid logo (Cardiff Metropolitan University) , Gary Beauchamp orcid logo (Cardiff Metropolitan University)

  • Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan

    Research Articles (Welsh)

    Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan

    Authors: ,

Abstract

CRYNODEB ACADEMAIDD 

Mae tystiolaeth lethol yn awgrymu ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd oherwydd effeithiau dynol ar brosesau planedol hanfodol. Ar yr un pryd, mae Cymru wrthi’n gwneud diwygiadau arwyddocaol i’r cwricwlwm. Fel rhan o’r diwygiadau, mae’r gair cynefin yn ymddangos yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru. Mae’r papur hwn yn dadansoddi sut mae gorbwyslais ar safbwyntiau epistemolegol ac ontolegol cyfyngedig ym maes addysg wedi helpu i greu darlun tlodaidd o’r hunan sydd wedi gwaethygu ein perthynas afiach â natur. Cynigir y gellid defnyddio’r gair cynefin yn gysyniadol i awgrymu cyflyrau amgen o fod a ffyrdd o wybod sy’n cynnwys gwell ymdeimlad o’r hunan. Awgrymir y gall plant ymgysylltu â’r byd naturiol drwy safbwyntiau ontolegol cryfach wrth archwilio ffyrdd o wybod sy’n cael eu gwthio i’r cyrion yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd fel arfer. Mae gwir angen am hyn gan y gallai creu cyfleoedd i blant ddod i gytgord â’u cyfranogiad cydgysylltiedig â’r byd mwy na dynol feithrin perthynas adnewyddol ac adferol â natur. At hynny, gallai alluogi’r profiad o ddealltwriaeth ddirfodol ehangach.

CRYNODEB YMARFEROL 

Mae’r papur hwn yn archwilio sut y gallai’r gair cynefin roi hwb i addysg yng Nghymru nid yn unig i fynd i’r afael â gofynion yr argyfwng hinsawdd, ond galluogi ffordd o ddeall ymdeimlad pobl o le a’u cydberthynas â’r byd naturiol. Mae Cymru wrthi’n gwneud diwygiadau arwyddocaol i’r cwricwlwm. Fel rhan o’r diwygiadau, mae’r gair cynefin yn ymddangos yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru. Diffinnir Cynefin yng nghanllawiau’r cwricwlwm fel “lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol ( ... ) sydd wedi siapio ac yn parhau i siapio’r gymuned sy’n byw ynddo” (Llywodraeth Cymru, 2021). Fodd bynnag, gellir deall y gair cynefin hefyd i ddisgrifio teimlad rhywun o deimlo’n gartrefol mewn mannau yn y byd naturiol. Felly, gallai addysgwyr ddefnyddio’r gair cynefin i bwysleisio pwysigrwydd gwerthfawrogi ymdeimlad o gymuned yn y byd naturiol a chyda’r byd hwnnw. Mae’r papur hwn yn dadlau bod y ddealltwriaeth well hon yn bwysig gan fod ymchwil yn dangos bod angen i blant brofi ymdeimlad o gysylltiad â’r byd naturiol cyn i ni ofyn iddynt ei achub. At hynny, gall y gair Cymraeg hwn, na ellir ei gyfieithu’n hawdd i’r Saesneg, roi llais i ffordd o weld a phrofi’r byd sy’n cael ei esgeuluso’n rhy aml mewn addysg draddodiadol.

Keywords: Cynefin, Ontoleg Epistemoleg, Natur, Addysg, Cwricwlwm, Ontoleg, Epistemoleg

How to Cite:

Adams, D. & Beauchamp, G., (2022) “Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan”, Wales Journal of Education 24(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.1.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

308 Views

59 Downloads

Published on
31 May 2022
Peer Reviewed