Abstract
Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn y maes addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) yn cael ei flaenoriaethu’n rhyngwladol. Mae’r flaenoriaeth hon yn bwysig, yn enwedig pan mae disgwyl i ymarferwyr yng Nghymru weithredu newidiadau uchelgeisiol i’r cwricwlwm. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau dwy astudiaeth PhD, un yn archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu ac un arall yn archwilio lles. Canfu dair nodwedd gyffredin: yn gyntaf, dealltwriaeth gyfyngedig o sgemâu a lles ymhlith rhai ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc; yn ail, dealltwriaeth gyfyngedig o sut i adnabod a chefnogi sgemâu a hybu lles mewn ymarfer yn yr ystafell ddosbarth; ac yn drydydd, diffyg eglurder yng nghanllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru ynghylch sgemâu a lles. Mae’r erthygl hon yn trafod goblygiadau’r nodweddion cyffredin hyn i blant ac ymarfer, gweithredu’r cwricwlwm ac ymchwil. Ymhellach, mae’n awgrymu pe bai gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o sgemâu a lles, gallai hyn eu helpu i ailfeddwl a thrawsnewid eu hymarfer. Mae’r papur hwn yn dadlau dros bwysigrwydd datblygiad proffesiynol cydweithredol a myfyrio beirniadol ar gyfer ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yng ngoleuni’r newid yn y cwricwlwm.
Keywords: sgemâu, lles, cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, Cymru, dysgu a datblygiad proffesiynol
How to Cite:
Lewis, A. & Thomas, A., (2021) “Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu a lles yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen”, Wales Journal of Education 23(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.23.1.3cym
Downloads:
Download PDF (Cym)
View PDF