Research Articles (Welsh)

“Dyfodol Llwyddiannus” i’n “Dyfodol Byd-eang?” – Goblygiadau Cwricwlwm 2022 ar addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol

Author: Delyth Jones (Aberystwyth University)

  • “Dyfodol Llwyddiannus” i’n “Dyfodol Byd-eang?” – Goblygiadau Cwricwlwm 2022 ar addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol

    Research Articles (Welsh)

    “Dyfodol Llwyddiannus” i’n “Dyfodol Byd-eang?” – Goblygiadau Cwricwlwm 2022 ar addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol

    Author:

Abstract

Mae’r erthygl hon yn trafod dyfodol addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yn ysgolion Cymru yng ngoleuni’r newidiadau ddaw yn sgil cwricwlwm 2022. Mae’n hysbys ddigon fod y niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor fel pwnc TGAU a Lefel A wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Bwriad strategaeth ‘Dyfodol Byd-eang’ (2015) y llywodraeth oedd cynyddu’r niferoedd hyn.  Gyda’r strategaeth bum mlynedd hon ar fin dod i ben a chyda pharatoadau cwricwlwm 2022 yn mynd rhagddynt, mae’n amserol holi a ellir disgwyl gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd megis Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg fel pwnc TGAU yn ystod y blynyddoedd nesaf.  Er mwyn archwilo’r cwestiwn hwn, edrychir ar ymchwil i addysgu a dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd yn Lloegr a’r Alban a’r heriau ymarferol ddaeth yn sgil hyn, (Finch et al, 2018, Holmes a Myles, 2019, Giraud-Johnstone, 2017).  Yn ail, trafodir rôl cymhelliant wrth ddysgu iaith dramor a dadleuir bod cyfyngiadau’r blychau opsiwn ym mlynyddoedd 8 neu 9 yn rhwystro rhai disgyblion rhag dewis iaith fodern fel pwnc TGAU, (Estyn, 2016, Abrahams, 2018).  Yn drydydd, manylir ar y farn gyffredin ymhlith disgyblion bod dysgu iaith dramor yn anodd ac yn heriol (Coleman et al, 2007, Coffey, 2018, Rodeiro, 2017, Cyngor Prydeinig, 2019). I gloi, cynigir rhai argymhellion ar sut i sicrhau llwyddiant elfen ieithoedd rhyngwladol y cwricwlwm newydd er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r prinder presennol o ddisgyblion sy’n dewis y pwnc ac athrawon i addysgu’r pwnc.

Keywords: Ieithoedd Rhyngwladol, blychau opsiwn, cwricwlwm 2022

How to Cite:

Jones, D., (2021) ““Dyfodol Llwyddiannus” i’n “Dyfodol Byd-eang?” – Goblygiadau Cwricwlwm 2022 ar addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol”, Wales Journal of Education 23(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.23.1.5

479 Views

101 Downloads

Published on
30 Jul 2021
Peer Reviewed