Research Articles (Welsh)

Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan

Authors: Jeremy Griffiths (Prifysgol Bangor) , Sally Bamber orcid logo (Prifysgol Caer) , Graham French orcid logo (Prifysgol Bangor) , Bethan Hulse orcid logo (Prifysgol Caer) , Gwyn Jones (Prifysgol Bangor) , Rhys C. Jones orcid logo (Prifysgol Bangor) , Susan Jones (Prifysgol Bangor) , Gwawr Maelor Williams (Prifysgol Bangor) , Hazel Wordsworth orcid logo (Prifysgol Bangor) , J. Carl Hughes (Prifysgol Bangor)

  • Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan

    Research Articles (Welsh)

    Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan

    Authors: , , , , , , , , ,

Abstract

Yn y papur hwn rydym yn amlinellu'r athroniaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sylfaen i ddatblygiad CaBan – Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a ddatblygwyd er mwyn addysgu athrawon yfory yng ngogledd Cymru. Mae CaBan yn 'bartneriaeth ddysgu' uchelgeisiol sy'n cynnwys pum partner – ysgolion rhanbarthol, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol (GwE), a'r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI). Mae pob partner yn gwneud cyfraniad allweddol at wireddu ein huchelgais i gyfrannu at Genhadaeth Ein Cenedl a chyflawni ein gweledigaeth i 'Ddatblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd.' Nod sylfaenol CaBan yw cynorthwyo ein Hathrawon Cyswllt newydd i fod yn athrawon creadigol, hynod fedrus sy'n ysbrydoli, a fydd yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes (Llywodraeth Cymru, 2015). Mae'r papur hwn yn amlinellu: (i) ein gweledigaeth a chenhadaeth sylfaenol fel partneriaeth ddysgu; (ii) y dystiolaeth i gefnogi ein saf bwynt addysgegol strategol ar gyfer datblygu athrawon yfory; (iii) cyfraniad hanfodol mentora at ddatblygiad ein Hathrawon Cyswllt fel ymarferwyr adfyfyriol beirniadol; (iv) sut rydym yn integreiddio ymchwil fel elfen hanfodol o'n holl waith; (v) sut mae dyluniad ein rhaglen yn seiliedig ar y cysyniad o ymholiad proffesiynol a dysgu proffesiynol gydol gyrfa yr unigolyn; (vi) y dulliau dysgu penodol sy'n meithrin ymdeimlad Athrawon Cyswllt o'u 'hunaniaeth addysgu'; a (vii) pwysigrwydd diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg mewn addysg, a chyfraniad partneriaeth CaBan at ddatblygu gallu er mwyn helpu i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

How to Cite:

Griffiths, J., Bamber, S., French, G., Hulse, B., Jones, G., Jones, R. C., Jones, S., Williams, G. M., Wordsworth, H. & Hughes, J. C., (2020) “Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan”, Wales Journal of Education 22(1), 209-232. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.10

Downloads:
Download PDF
View PDF

306 Views

65 Downloads

Published on
01 Mar 2020
Peer Reviewed