Research Articles (Welsh)
Authors: J. Carl Hughes (Wales Journal of Education) , Jeremy Griffiths (Wales Journal of Education) , Sally Bamber (Wales Journal of Education) , Graham French (Wales Journal of Education) , Bethan Hulse (Wales Journal of Education) , Gwyn Jones (Wales Journal of Education) , Rhys C. Jones (Wales Journal of Education) , Susan Jones (Wales Journal of Education) , Gwawr Maelor Williams (Wales Journal of Education) , Hazel Wordsworth (Wales Journal of Education)
Yn y papur hwn rydym yn amlinellu'r athroniaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sylfaen i ddatblygiad CaBan – Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a ddatblygwyd er mwyn addysgu athrawon yfory yng ngogledd Cymru. Mae CaBan yn 'bartneriaeth ddysgu' uchelgeisiol sy'n cynnwys pum partner – ysgolion rhanbarthol, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol (GwE), a'r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI). Mae pob partner yn gwneud cyfraniad allweddol at wireddu ein huchelgais i gyfrannu at Genhadaeth Ein Cenedl a chyflawni ein gweledigaeth i 'Ddatblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd.' Nod sylfaenol CaBan yw cynorthwyo ein Hathrawon Cyswllt newydd i fod yn athrawon creadigol, hynod fedrus sy'n ysbrydoli, a fydd yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes (Llywodraeth Cymru, 2015). Mae'r papur hwn yn amlinellu: (i) ein gweledigaeth a chenhadaeth sylfaenol fel partneriaeth ddysgu; (ii) y dystiolaeth i gefnogi ein saf bwynt addysgegol strategol ar gyfer datblygu athrawon yfory; (iii) cyfraniad hanfodol mentora at ddatblygiad ein Hathrawon Cyswllt fel ymarferwyr adfyfyriol beirniadol; (iv) sut rydym yn integreiddio ymchwil fel elfen hanfodol o'n holl waith; (v) sut mae dyluniad ein rhaglen yn seiliedig ar y cysyniad o ymholiad proffesiynol a dysgu proffesiynol gydol gyrfa yr unigolyn; (vi) y dulliau dysgu penodol sy'n meithrin ymdeimlad Athrawon Cyswllt o'u 'hunaniaeth addysgu'; a (vii) pwysigrwydd diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg mewn addysg, a chyfraniad partneriaeth CaBan at ddatblygu gallu er mwyn helpu i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Keywords:
How to Cite: Hughes, J. C. , Griffiths, J. , Bamber, S. , French, G. , Hulse, B. , Jones, G. , Jones, R. C. , Jones, S. , Williams, G. M. & Wordsworth, H. (2020) “Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan”, Wales Journal of Education. 22(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.10