Skip to main content
Focus on Practice (Welsh)

‘Deffro Chwilfrydedd’: Integreiddio Dulliau sy’n seiliedig ar y Celfyddydau mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Hyfforddiant Ymarferwyr yng Nghymru

Authors
  • ‘Deffro Chwilfrydedd’: Integreiddio Dulliau sy’n seiliedig ar y Celfyddydau mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Hyfforddiant Ymarferwyr yng Nghymru

    Focus on Practice (Welsh)

    ‘Deffro Chwilfrydedd’: Integreiddio Dulliau sy’n seiliedig ar y Celfyddydau mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Hyfforddiant Ymarferwyr yng Nghymru

    Authors

Abstract

Mae’r erthygl hon yn astudio proses ymchwil a arweinir gan addysgu er mwyn archwilio amrywiaeth drwy’r celfyddydau, proses sydd wedi’i hymwreiddio mewn modiwl Ymarfer Myfyriol Proffesiynol blwyddyn olaf fel rhan o raglen BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar yng Nghymru. Mae’r profiad addysgegol wedi’i lywio gan athroniaeth Reggio Emilia ac mae’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Cynhaliwyd cyfres o weithdai seiliedig ar y celfyddydau wedi’u hwyluso gan artist a darlithydd. Trwy bortffolios myfyriol ac allbynnau creadigol, fe wnaeth myfyrwyr ymdrin â chwestiynau o hunaniaeth broffesiynol, cynhwysiant diwylliannol, a rôl creadigrwydd mewn addysgeg y blynyddoedd cynnar. Mae’r ymarfer hwn yn trafod safbwyntiau myfyrwyr ar integreiddio dulliau creadigol yn eu hymarfer addysg/ymchwil ac yn meithrin gallu i gysylltu â mynegiannau diwylliannol amrywiol. Cydsyniodd y cyfranogwyr i dynnu lluniau o’u gwaith a’u creadigaethau. Gwarchodwyd anhysbysrwydd eu myfyrdodau. Mae’r drafodaeth yn datgelu y gall ymyriadau o’r fath gryfhau ymarfer myfyriol, meddwl beirniadol, gall wella ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a chefnogi’r broses o bontio o lwybr myfyriwr i lwybr proffesiynol. Trafodir goblygiadau i hyfforddiant ymarferwyr ac addysgeg ac ymchwil y blynyddoedd cynnar.

Keywords: y celfyddydau, ymchwil a arweinir gan addysgu, amrywiaeth ddiwylliannol, astudiaethau plentyndod cynnar, addysg uwch, cymru

How to Cite:

Tur Porres, G. & Biant, P., (2026) “‘Deffro Chwilfrydedd’: Integreiddio Dulliau sy’n seiliedig ar y Celfyddydau mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Hyfforddiant Ymarferwyr yng Nghymru”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/ffocws22 

Downloads:
Download PDF
View PDF

20 Views

1 Downloads