Research Articles (Welsh)

O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl

Author: Andrew James Davies orcid logo (Prifysgol Abertawe)

  • O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl

    Research Articles (Welsh)

    O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl

    Author:

Abstract

Mae’r erthygl adolygu hon yn ystyried diwygio a gweithredu’r cwricwlwm yng Nghymru a’i berthynas â hunaniaeth a hunaniaethau cenedlaethol. Efallai mai’r Cwricwlwm i Gymru yw’r datblygiad mwyaf arwyddocaol ym mholisi addysg Cymru ers datganoli, a dyma ganolbwynt y gyfres ddiweddaraf o ddiwygiadau polisi a ddechreuodd tua 2016. O’r herwydd, mae wedi bod yn destun astudiaethau, trafodaethau a damcaniaethu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar ei agweddau technegol, fel cymhwysedd a chynnydd dysgwyr, asesu, a sut mae’n ymdrin â’r meysydd pwnc diffiniol ac integreiddiol. Hefyd yn amlwg mewn dadleuon diweddar bu trafodaeth ar gwestiynau mwy ideolegol ynghylch galluogrwydd athrawon, ei botensial rhyddfreiniol o ran proffesiynoldeb athrawon, a’i berthynas ag ecoleg ehangach atebolrwydd addysgol yn ei gylch. Ac eto, efallai fod trafodaeth am arwyddocâd y Cwricwlwm i Gymru wrth adlewyrchu hunaniaethau amrywiol Cymru gyfoes wedi bod yn ffenomen fwy diweddar, a bod sylwebwyr ac ymchwilwyr dim ond newydd ddechrau mynd i’r afael â’r effaith bosibl y bydd y cwricwlwm yn ei chael ar ymdeimlad Cymru ohoni ei hun, a sut bydd y cysyniad o Cynefin yn cael ei ddefnyddio fel y prif gyfrwng ar gyfer ymgysylltu â lle, cymuned a hunaniaethau. Mae’r papur hwn yn amlinellu’r dadleuon ehangach y cyfeirir atynt uchod, cyn cynnig myfyrdod pellach ar sefyllfa ‘cenedl’ yn y Cwricwlwm. Mae’n mynd ymlaen i ystyried sut mae cenhedloedd is-wladwriaethol, fel Cymru, sydd wedi ennill rheolaeth dros eu cwricwla, yn cynhyrchu ac yn atgynhyrchu eu ‘cenedligrwydd’ penodol a’u hunaniaethau cenedlaethol cymhleth (hanesyddol, cyfoes a datblygol).

Keywords: Cwricwlwm i Gymru, cenedl, hunaniaeth genedlaethol, Cynefin

How to Cite:

Davies, A., (2025) “O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl”, Wales Journal of Education 27(1), 110–131. doi: https://doi.org/10.16922/wje.27.1.5cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

43 Views

6 Downloads

Published on
30 May 2025
Peer Reviewed