Research Articles (Welsh)

Y ‘Ffordd Gymreig’, dysgu yn yr awyr agored o fewn y cwricwlwm cynradd: ychwanegiad ymylol neu ymarfer addysgegol prif ffrwd?

Authors: Cheryl Ellis (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) , Rosy Ellis (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) , Laura Dobson (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) , Sheena O'Leary orcid logo (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) , Andrea Williams (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

  • Y ‘Ffordd Gymreig’, dysgu yn yr awyr agored o fewn y cwricwlwm cynradd: ychwanegiad ymylol neu ymarfer addysgegol prif ffrwd?

    Research Articles (Welsh)

    Y ‘Ffordd Gymreig’, dysgu yn yr awyr agored o fewn y cwricwlwm cynradd: ychwanegiad ymylol neu ymarfer addysgegol prif ffrwd?

    Authors: , , , ,

Abstract

Mae’r sylfaen dystiolaeth gynyddol gadarn o bob cwr o’r byd yn tynnu sylw at amrywiaeth o ffyrdd y gall plant elwa ar ymgysylltu ag amgylcheddau awyr agored, gan gynnwys cynnydd mewn datblygiad corfforol, gwell iechyd meddwl a lles meddyliol, mwy o gadernid a lefelau uwch o ymgysylltu. Fodd bynnag, gall mynediad plant i amgylcheddau awyr agored gael ei gyfyngu gan ffactorau fel diffyg mannau ‘diogel’ sydd ar gael, pryderon fel ‘perygl dieithriaid’ a ffocws ar weithgareddau allgyrsiol mwy strwythuredig yn ystod oriau ‘y tu allan i’r ysgol’. Awgrymwn felly fod gan ysgolion ran allweddol o ran darparu cyfleoedd i bob plentyn gymryd rhan mewn amgylcheddau awyr agored trwy chwarae a dysgu yn yr awyr agored. Mae’r papur hwn yn bwrw golwg ar y newidiadau allweddol i bolisi a’r cwricwlwm dros y 25 mlynedd diwethaf mewn perthynas â dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae’n nodi bod dysgu proffesiynol yn ffactor allweddol wrth sicrhau bod pob addysgwr ysgol gynradd yn gwerthfawrogi gwerth dysgu yn yr awyr agored. Mae’n amlygu’r angen am gysondeb ar draws lleoliadau ysgolion cynradd fel bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at brofiadau dysgu awyr agored o ansawdd uchel fel rhan o ymarfer addysgeg prif ffrwd. Ar ben hynny, wrth i ni edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf, mae’n cynnig y dylid sicrhau atebolrwydd drwy fframwaith arolygu Estyn.

Keywords: dysgu yn y awyr agored, ysgolion cynradd, polisi, dysgu proffesiynol, dull addysgegol

How to Cite:

Ellis, C., Ellis, R., Dobson, L., O'Leary, S. & Williams, A., (2024) “Y ‘Ffordd Gymreig’, dysgu yn yr awyr agored o fewn y cwricwlwm cynradd: ychwanegiad ymylol neu ymarfer addysgegol prif ffrwd?”, Wales Journal of Education 26(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.10cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

20 Views

3 Downloads

Published on
29 Nov 2024
Peer Reviewed