Abstract
O ran addysg gynhwysol ac anghenion dysgu ychwanegol, mae datblygiadau yng Nghymru yn adlewyrchu tueddiadau byd-eang mewn mannau eraill. Er y bu ymrwymiad hirsefydlog i addysg gynhwysol mewn ysgolion, araf fu’r cynnydd tuag at hyn, ynghyd â thwf mewn addysg arbennig a dyfalbarhad y gred bod ymarfer ar wahân er lles gorau rhai dysgwyr. Mae’r erthygl hon yn archwilio datblygiadau ym maes addysg gynhwysol ac anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf. Yn gyntaf, rydym yn ystyried y cyd-destun polisi, yn benodol cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a sut mae’n cyd-fynd â’r system newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn dilyn hyn, rydym yn canolbwyntio ar ymarfer a’r ymateb i ddiwygio addysg gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Rydym yn dod i’r casgliad bod gan systemau ar gyfer cynhwysiant a chymorth dysgu sy’n cael eu datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd y potensial i wella lles a chyflawniad grŵp ehangach o ddysgwyr os oes amodau penodol ar waith.
Keywords: cynhwysiant, anghenion dysgu ychwanegol, diwygio'r cwricwlwm
How to Cite:
Conn, C., Hicks, M. & Thomas, D. V., (2024) “Datblygiadau mewn addysg gynhwysol ac anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru”, Wales Journal of Education 26(2), 94–106. doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.7cym
                                    Downloads:
                                    
                                        
                                            Download PDF
                                            
                                            
                                                View PDF
                                            
                                        
                                        
341 Views
90 Downloads
                                                    Published on 
                                                    2024-11-29
                                                
Peer Reviewed
