Abstract
Mae’r fframwaith cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig dull o ymdrin â gwaith cwricwlwm i addysgwyr sy’n wahanol iawn i’r cwricwlwm cenedlaethol blaenorol a gyflwynwyd ym 1988. Un nodwedd o’r fframwaith cwricwlwm newydd yw ei bwyslais ar brofiad. Fodd bynnag, nid oes llawer o gefnogaeth i ystyriaethau damcaniaethol o brofiad yn cael ei chynnig gan Lywodraeth Cymru yn ei chanllawiau ar gyfer athrawon. Mae’r erthygl hon yn cynnig y gall dulliau ailgysyniadolaidd o ymdrin â theori cwricwlwm a damcaniaethu fynd i’r afael â’r diffyg hwn. Mae ailgysyniadoli cwricwlwm yn newid y ffocws o safbwyntiau traddodiadol i ddeall cwricwlwm fel profiad bywyd (Pinar 2019). Yn ogystal, drwy gyflwyno dull currere, mae Pinar (1975) yn cynnig dull y gall addysgwyr ei ddefnyddio i ddadansoddi a dehongli sut mae eu profiadau addysgol yn dylanwadu ar eu gwerthoedd, eu harferion a’u hunaniaethau addysgol ac yn eu siapio, yn ogystal â sut maent yn dod i ddeall cwricwlwm (Pinar et al. 2008). Yn yr erthygl hon, rwy’n trafod tarddiad a nodau’r mudiad ailgysyniadolaidd yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru ac yn dadlau y gall dulliau o’r fath o ddeall cwricwlwm gynyddu gallu athrawon i wneud ymchwil addysgol, gwella eu dealltwriaeth gwricwlaidd, a chryfhau mynegiant o’u llais addysgol a phroffesiynol.
Keywords: currere, cwricwlwm, ailgysyniadolaidd, damcaniaethu’r cwricwlwm, theori cwricwlwm
How to Cite:
Smith, K., (2024) “Ailgysyniadoli Cwricwlwm mewn cyfnod newydd o Addysg yng Nghymru”, Wales Journal of Education 26(2), 57–74. doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.5cym
Downloads:
Download PDF
View PDF