Research Articles (Welsh)

Addysgu llenyddiaethau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru: amrywiaeth mewn Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol

Authors: Sarah Olive orcid logo (Prifysgol Aston) , Gwawr Maelor (Prifysgol Bangor) , Mary Davies (Prifysgol Bangor)

  • Addysgu llenyddiaethau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru: amrywiaeth mewn Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol

    Research Articles (Welsh)

    Addysgu llenyddiaethau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru: amrywiaeth mewn Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol

    Authors: , ,

Abstract

Mae’r erthygl hon yn rhannu canfyddiadau ar ba lenyddiaethau a addysgir mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, a pham, o arolwg o bedwar deg saith o athrawon ledled Cymru yn 2022. Roedd ein cyfranogwyr yn addysgu llenyddiaethau ym mhynciau Cymraeg, Saesneg, drama, Ffrangeg a Sbaeneg. Mae hyn yn cynrychioli agwedd drawsddisgybl aethol a lluosieithog at lenyddiaethau mewn ysgolion yng Nghymru sy’n gwahaniaethu’r ymchwil hon o blith astudiaethau blaenorol. Mae’r ymchwil yn ymwneud yn agos ag amrywiaeth ethnig a rhywedd awduron o ran cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg a chymdeithas. Mae’r canlyniadau’n dangos bod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli fel awduron barddoniaeth a dramâu, a nofelau i raddau ychydig llai. Mae’r gynrychiolaeth ychydig yn well mewn astudiaethau llenyddol Cymraeg na rhai Saesneg. Dim ond llond llaw o Awduron o Liw a addysgwyd: mae’r rheiny ymhlith y testunau Saesneg a Ffrangeg yn unig. Ni addysgwyd unrhyw destunau Cymraeg gan Awduron Lliw. Mae ein trafodaeth yn rhoi cyd-destun i’r diffyg amrywiaeth cyffredinol wrth addysgu llenyddiaethau yng Nghymru – sy’n peryglu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru Wrth-hiliol 2030 ac addysgu hanes a phrofiadau BAME – drwy gymariaethau ag ymchwil ryngwladol. Mae’n cloi drwy amlinellu argymhellion i’r llywodraeth, i gyhoeddwyr, i ysgolion ac i athrawon o ran hyfforddiant, adnoddau a chynllun y cwricwlwm, yn ogystal â meysydd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Keywords: llenyddiaeth, amrywiaeth, ysgol uwchradd, rhywedd, ethnigrwydd, Cymraeg, Saesneg, drama, Cymru

How to Cite:

Olive, S., Maelor, G. & Davies, M., (2024) “Addysgu llenyddiaethau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru: amrywiaeth mewn Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol”, Wales Journal of Education 26(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.1.5cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

40 Views

9 Downloads

Published on
22 Aug 2024
Peer Reviewed