Research Articles (Welsh)

Adolygiad o ystadegau Llywodraeth Cymru ar gyfer meincnodi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018

Authors: Alan J. Marsh orcid logo , Hayley Jeans (Prifysgol Caerdydd)

  • Adolygiad o ystadegau Llywodraeth Cymru ar gyfer meincnodi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018

    Research Articles (Welsh)

    Adolygiad o ystadegau Llywodraeth Cymru ar gyfer meincnodi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018

    Authors: ,

Abstract

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET) 2018 yn darparu ar gyfer system statudol newydd i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) rhwng 0 a 25 oed. Mae gan y Ddeddf gyfnod gweithredu trosiannol rhwng 2021 a 2025. Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn disodli datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA) ac maent ar gael i boblogaeth llawer ehangach o ddysgwyr. Nod yr ymchwil hon yw darparu llinell sylfaen feintiol ar gyfer meincnodi’r gweithdrefnau ADY newydd yn y dyfodol. Defnyddiwyd ystadegau swyddogol gan Lywodraeth Cymru (2010–23), o gyffredinrwydd ADY, ar gyfer lefelau cyllid ac ar gyfer apeliadau i Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae’r 22 Awdurdod Lleol (ALlau) wedi’u grwpio’n dri chlwstwr tebyg i’w dadansoddi, gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos gwahaniaethau sylweddol, yn enwedig anghyfartaledd mewn gwariant wedi’i gyllidebu ar ddarpariaeth AAA o £25 miliwn, er bod lefel o gynaliadwyedd ar hyn o bryd nad yw’n cael ei brofi yng ngwledydd eraill y DU. Yr her barhaus i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol dros y 25 mlynedd nesaf yw craffu, cynnal cynaliadwyedd ac adolygu gweithrediad y ddeddfwriaeth ADY newydd yn rheolaidd, er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb mewn polisi ac ymarfer.

Keywords: anghenion dysgu ychwanegol, Cynlluniau Datblygu unigol, cyllid addysg, llywodraeth leol Cymru, meincnodi, apeliadau’r Tribiwnlys, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

How to Cite:

Marsh, A. J. & Jeans, H., (2024) “Adolygiad o ystadegau Llywodraeth Cymru ar gyfer meincnodi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018”, Wales Journal of Education 26(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.1.4cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

41 Views

12 Downloads

Published on
22 Aug 2024
Peer Reviewed