Research Articles (Welsh)

Archwilio darpariaeth amgen mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru: Rhesymeg, canlyniadau ac adnoddau

Author: Jemma Bridgeman orcid logo (Prifysgol Caerdydd)

  • Archwilio darpariaeth amgen mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru: Rhesymeg, canlyniadau ac adnoddau

    Research Articles (Welsh)

    Archwilio darpariaeth amgen mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru: Rhesymeg, canlyniadau ac adnoddau

    Author:

Abstract

Fel rhan o brosiect mwy’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar economïau gwleidyddol gwaharddiadau ysgol yn y DU, mae’r ymchwil hwn yn archwilio darpariaeth amgen. Mae darpariaeth amgen yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio addysg y tu allan i ystafell ddosbarth brif ffrwd. Gall disgyblion fynychu darpariaeth amgen yn llawn amser fel dewis arall yn lle addysg brif ffrwd neu ar sail atodol ochr yn ochr ag addysg brif ffrwd. Gellir ei threfnu gan awdurdod lleol (ALl) neu ysgol. Mae darpariaeth amgen yn darparu addysg i bobl ifanc nad ydynt yn mynychu ysgol brif ffrwd; gall hyn fod oherwydd gwaharddiad ysgol, salwch corfforol, problemau ymddygiad, salwch meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Pan na all disgyblion fynychu’r ysgol, boed hynny am resymau iechyd neu oherwydd eu bod wedi’u gwahardd o’r ysgol, mae’n bwysig eu bod yn dal i gael addysg. Mae ymchwil yn esbonio bod y sector darpariaeth amgen yn gasgliad dryslyd o brosiectau. Mae’n cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sy’n darparu ymyriadau, gan gynnwys rhaglenni galwedigaethol, academaidd, sgiliau bywyd a therapiwtig. Mae’r ymchwil hon yn tynnu ar ganfyddiadau cyfweliadau â deg darparwr amgen sydd â rhesymeg wahanol ar draws dau ALl yng Nghymru. Y tair thema a ddaeth i’r amlwg o’r dadansoddiad data a wnaed oedd rhesymeg, canlyniadau ac adnoddau. Roedd gwahaniaethau mewn rhesymeg gyda darparwyr addysgol a galwedigaethol yn canolbwyntio ar gymwysterau a phontio i gyflogaeth, addysg, a hyfforddiant, a darparwyr therapiwtig, chwaraeon a’r celfyddydau yn canolbwyntio ar feithrin ymddiriedaeth, perthnasoedd a sgiliau bywyd. Wynebodd yr holl ddarparwyr heriau wrth fesur canlyniadau eu hymyriadau. Nid oedd gan ddarparwyr a oedd yn gweithio mewn ysgolion fanylion cyswllt pobl ifanc i olrhain pontio ar ôl y rhaglen. Gallai eraill olrhain pontio i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth yn y tymor byr ond ni allent gofnodi’r deilliannau hydredol.

Prif ganfyddiad yr ymchwil hwn yw nad yw darparwyr darpariaeth amgen yn derbyn digon o gyllid i dalu’u costau, a gallai diffyg tystiolaeth o effeithiolrwydd ac eglurder ynghylch rhesymeg waethygu hyn. Mae’r ffordd y mae rhaglenni darpariaeth amgen yn cael eu hadnoddau’n codi cwestiynau am gynaliadwyedd y ddarpariaeth - roedd darparwyr trydydd sector yn ei chael hi’n anodd talu costau craidd rhaglenni, roedd cwmnïau preifat yn tueddu i gael cymhorthdal gan rannau mwy proffidiol o’u sefydliadau, ac roedd hyd yn oed darparwyr cyhoeddus angen cyllid ychwanegol ar gyfer eu gweithgareddau.

Keywords: darpariaeth amgen, cyllid, mesur llwyddiant, teipoleg, gwahardd

How to Cite:

Bridgeman, J., (2024) “Archwilio darpariaeth amgen mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru: Rhesymeg, canlyniadau ac adnoddau”, Wales Journal of Education 26(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.1.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

37 Views

8 Downloads

Published on
21 Aug 2024
Peer Reviewed