Research Articles (Welsh)

Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion

Authors: Jane Pegram orcid logo (Prifysgol Bangor) , Carl Hughes (Prifysgol Bangor) , Marguerite Hoerger orcid logo (Prifysgol Bangor) , Richard C Watkins orcid logo (GwE)

  • Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion

    Research Articles (Welsh)

    Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion

    Authors: , , ,

Abstract

Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu bod penderfyniadau’n cael eu dylanwadu gan brofiad personol, profiadau cydweithwyr a staff mewn ysgolion eraill, a datblygiad proffesiynol nad yw’n seiliedig ar ymchwil. Mae’r broses o wneud penderfyniadau yn gymhleth a gallai gwell dealltwriaeth o hyn roi darlun o’r ffordd orau o wella’r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn ysgolion, a allai arwain at fabwysiadu mwy o ddulliau addysgu seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gyda chlwstwr o ysgolion yng Nghymru i archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth ddewis pa raglenni i’w mabwysiadu i’w defnyddio. Cynhaliwyd cyfweliadau gydag arweinwyr ysgolion o ddwy ysgol uwchradd, chwe ysgol gynradd ac un ysgol arbennig. Mae ein canlyniadau’n cefnogi canfyddiadau ymchwil flaenorol ac yn darparu mwy o wybodaeth am y ffactorau cydgysylltiedig sy’n dylanwadu ar benderfyniadau. Rydym yn mynd i’r afael â bylchau yn yr wybodaeth ac yn awgrymu sut y gall llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion wella’r broses o wneud penderfyniadau mewn ysgolion i wella’r broses o drosglwyddo a mabwysiadu dulliau addysgu ar sail tystiolaeth.

Keywords: addysgu ar sail tystiolaeth, gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ysgolion, gwerthuso, damcaniaeth lledaenu arloesiadau, Cymru

How to Cite:

Pegram, J., Hughes, C., Hoerger, M. & Watkins, R. C., (2024) “Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion”, Wales Journal of Education 26(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.26.1.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

49 Views

13 Downloads

Published on
22 Aug 2024
Peer Reviewed