Abstract
Mae mudwyr dan orfod yn ymaelodi â dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) er mwyn dysgu iaith. Gall y broses o gaffael iaith newydd gael ei heffeithio mewn ffordd negyddol gan drawma seicolegol sy’n cael ei ddwysáu gan straen mudo dan orfod. Er mwyn deall mwy am y sefyllfa sy’n bodoli, mae’r astudiaeth dulliau cymysg hon yn defnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig ac arolygon ar-lein i geisio rhoi cipolwg ar brofiadau athrawon ESOL sy’n gweithio gyda mudwyr dan orfod yng Nghymru a allai fod wedi dioddef trawma, ynghyd â strategaethau a ddefnyddir gan athrawon i fynd i’r afael â’r heriau. Mae’r astudiaeth yn datgelu nad oes modd gwahanu addysgu ESOL ac iechyd meddwl ar adegau. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi cael hyfforddiant ym maes trawma, ac maent yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau diogelwch yn yr ystafell ddosbarth trwy feithrin perthnasoedd da a rhoi gwerthoedd moesol ar waith. Mae lle i wella trawma yn yr ystafell ddosbarth ESOL, er nad yw’r arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a allai fod wedi hwyluso’r gwaith yn cael eu cymhwyso’n eang. Mae’r astudiaeth yn argymell ailgynllunio cyrsiau ESOL i fod yn ymatebol i drawma gan ddefnyddio dull cyd-gynhyrchu sy’n cynnwys unigolion sydd â phrofiad bywyd.
Keywords: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Ffoaduriaid, Trawma, Addysgu’r Iaith Saesneg (ELT), Iechyd Meddwl, Saesneg fel Ail Iaith, Addysg Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches, Noddfa, Ffoaduriaid, Trawma, Addysgu’r Iaith Saesneg (ELT), Iechyd Meddwl, Saesneg fel Ail Iaith, Addysg Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches, , Noddfa
How to Cite:
Agbaso, L. & Roberts, G. J., (2023) “'Tu hwnt i fod yn neis’: model ar gyfer cynorthwyo oedolion sy’n dysgu ESOL ac sydd wedi dioddef trawma”, Wales Journal of Education 25(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.2.5cym
Downloads:
Download PDF
View PDF