Research Articles (Welsh)

Astudiaeth Delphi i nodi strategaethau i liniaru effaith niweidiol COVID-19 ar blant o dan bump oed yng Nghymru

Authors: Cathryn Knight orcid logo (University of Bristol) , Jacky Tyrie orcid logo (Swansea University) , Tom Crick orcid logo (Swansea University) , Margarida Borras Batalla (Manchester Metropolitan University)

  • Astudiaeth Delphi i nodi strategaethau i liniaru effaith niweidiol COVID-19 ar blant o dan bump oed yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Astudiaeth Delphi i nodi strategaethau i liniaru effaith niweidiol COVID-19 ar blant o dan bump oed yng Nghymru

    Authors: , , ,

Abstract

Mae’r pandemig COVID-19 byd-eang wedi cael effaith eang ar addysg ar draws pob lleoliad a chyd-destun, gan gynnwys addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua thri chwarter y plant o dan bump oed (tua 155,000 o blant) wedi cael eu heffeithio gan gau lleoliadau ECEC. Er bod llenyddiaeth yn dal i ddod i’r amlwg ar effaith hirdymor y pandemig ar blant o dan bump oed, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi archwilio’r strategaethau posibl i liniaru’r effeithiau niweidiol hyn. Defnyddiodd y prosiect ymchwil hwn ddull Delphi i ymchwilio i’r hyn y mae arbenigwyr ac ymarferwyr ECEC yn credu yw’r strategaethau mwyaf effeithiol i liniaru effaith niweidiol y pandemig ar blant o dan bump oed, gan ddefnyddio Cymru fel astudiaeth achos ar lefel genedlaethol. Rhwng mis Mai a mis Medi 2021, dosbarthwyd tri arolwg yn olynol i gyfranogwyr yr astudiaeth, a nodwyd fel arbenigwyr ECEC (n= 39). Ar ben hynny, ochr yn ochr â’r astudiaeth Delphi draddodiadol, anfonwyd arolwg ar-lein dienw untro hefyd i gymuned ymarferwyr ECEC ehangach yng Nghymru (n= 378). Y thema amlycaf o fewn y strategaethau a awgrymwyd gan gyfranogwyr yr astudiaeth oedd pwysigrwydd profiadau chwarae o safon uchel. Amlygwyd pwysigrwydd darpariaeth gyffredinol a chefnogaeth o safon i ymarferwyr a theuluoedd hefyd. Roedd y themâu hyn yn cael lle blaenllaw gan y grwpiau arbenigwyr a’r grwpiau ymarferwyr, er nad oedd consensws i’w weld rhyngddynt. Mae’r papur hwn yn cyflwyno’r themâu hyn ac yn eu harchwilio’n feirniadol, gan ddarparu’r sylfaen ar gyfer dyblygu a chludadwyedd y gwaith hwn a’i ganlyniadau i leoliadau ECEC mewn gwledydd ac awdurdodaethau eraill.

Keywords: Addysg a gofal plentyndod cynnar, ECEC, COVID-19, dull Delphi, Cymru

How to Cite:

Knight, C., Tyrie, J., Crick, T. & Borras Batalla, M., (2023) “Astudiaeth Delphi i nodi strategaethau i liniaru effaith niweidiol COVID-19 ar blant o dan bump oed yng Nghymru”, Wales Journal of Education 25(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.2.2cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

52 Views

17 Downloads