Research Articles (Welsh)

Pawb i edrych arna’ i! Parhad a newid mewn ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol: Portreadau newidiol o addysg a phlentyndod trwy amser

Author: Merris Griffiths (Cardiff Metropolitan University)

  • Pawb i edrych arna’ i! Parhad a newid mewn ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol: Portreadau newidiol o addysg a phlentyndod trwy amser

    Research Articles (Welsh)

    Pawb i edrych arna’ i! Parhad a newid mewn ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol: Portreadau newidiol o addysg a phlentyndod trwy amser

    Author:

Abstract

Gan ddefnyddio montage o ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol (1885- 2015) mewn tref fechan yng Nghymru, mae’r erthygl hon yn olrhain parhad a newid mewn perthynas â sut mae lluniadau cymdeithasol o ‘addysg’ a ‘phlentyndod’ yn cael eu cynrychioli yn weledol dros amser. Gan bwyso ar waith Goffman, archwilir codau a chonfensiynau cyfansoddiadol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y ffordd y mae pobl, hunaniaethau a chyd-destun yn cael eu portreadu er mwyn dangos sut mae cysyniadau o gydbwysedd defodol (y ‘norm’) a diffyg cydbwysedd defodol (gwyrdroi’r ‘norm’) yn llunio prosesau penodol o greu ystyr. Mae dadansoddi’n dangos bod codau a chonfensiynau cyfansoddiadol safonol wedi’u sefydlu’n gynnar yn nhraddodiad ffotograffau dosbarthiadau ysgol a’u bod yn ailadroddus, gan gydweddu’n gryf â mecanwaith disgyblaethol addysg yn aml. Mae rhywedd ac oedran yn dod i’r amlwg fel moddau trefnu pwerus. Mae patrymau mewn cynrychiolaeth weledol yn datgelu sut mae lluniadau o ‘addysg’ a ‘phlentyndod’ yn cael eu ffurfio gan newidiadau a datblygiadau mewn meddylfryd cymdeithasol-wleidyddol, a hefyd yn datgelu sut mae datblygiadau mewn technolegau ffotograffig yn ehangu’r dewis o dechnegau adrodd straeon gweledol.

Keywords: Ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol, portreadau, addysg, plentyndod, hanes, montage

How to Cite:

Griffiths, M., (2023) “Pawb i edrych arna’ i! Parhad a newid mewn ffotograffau o ddosbarthiadau ysgol: Portreadau newidiol o addysg a phlentyndod trwy amser”, Wales Journal of Education 25(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.1.5cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

112 Views

26 Downloads

Published on
13 Jul 2023
Peer Reviewed