Research Articles (Welsh)

Addysgeg o gymharu â pherfformiad wrth addysgu cerddoriaeth yn y dosbarth cynradd: Gwersi o ‘orffennol defnyddiadwy’ yng Nghymru

Authors: Gary Beauchamp orcid logo (Cardiff Metropolitan University) , Thomas Breeze orcid logo (Cardiff Metropolitan University)

  • Addysgeg o gymharu â pherfformiad wrth addysgu cerddoriaeth yn y dosbarth cynradd: Gwersi o ‘orffennol defnyddiadwy’ yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Addysgeg o gymharu â pherfformiad wrth addysgu cerddoriaeth yn y dosbarth cynradd: Gwersi o ‘orffennol defnyddiadwy’ yng Nghymru

    Authors: ,

Abstract

Ers dyddiau cynharaf cerddoriaeth yn ysgolion cynradd (elfennol) Cymru a Lloegr, gwelwyd pwysau i roi’r gallu i blant i berfformio cerddoriaeth. Sicrhaodd dylanwad cynnar yr Eglwys sefydledig, a’r gwerth ynghlwm wrth allu i berfformio’n gerddorol fel rhan o ddyheadau diwylliannol neu dreftadaeth ganfyddedig, fod athrawon yn cael eu barnu ar eu gallu i berfformio cerddoriaeth, ac yn eu tro yn dysgu eu disgyblion i wneud yr un peth. Yn wir, trwy gydol deddfwriaeth olynol a chynnydd y proffesiwn addysgu i statws graddedig, mae athrawon ysgolion cynradd wedi cael eu barnu ar eu gallu canfyddedig i berfformio cerddoriaeth eu hunain yn hytrach nag ar eu gallu addysgegol i’w ddysgu. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle’r oedd agweddau eraill ar gerddoroldeb yn cael eu hanwybyddu i bob pwrpas, a chyfleoedd i ddatblygu addysgeg amgen, yn seiliedig ar ystod ehangach o sgiliau a diddordebau cerddorol, wedi cael eu hesgeuluso gan lunwyr polisi olynol. Gyda chysyniadu ehangach o gerddoriaeth yn cael ei ragweld yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, y ddadl yw bod modd dysgu gwersi o ‘orffennol defnyddiadwy’ a fyddai’n galluogi athrawon ysgolion cynradd i ddatblygu dulliau addysgegol newydd. Byddai hynny wedyn yn caniatáu iddynt ymateb i blant mewn modd gwybodus, artistig a cherddorol sensitif, yn hytrach na bod angen iddynt feddu ar ‘sgiliau’ cerddorol penodol.

Keywords: cynradd, Cymru, addysgu cerddoriaeth

How to Cite:

Beauchamp, G. & Breeze, T., (2022) “Addysgeg o gymharu â pherfformiad wrth addysgu cerddoriaeth yn y dosbarth cynradd: Gwersi o ‘orffennol defnyddiadwy’ yng Nghymru”, Wales Journal of Education 24(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.2.6cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

116 Views

27 Downloads