Research Articles (Welsh)

Gweithio tuag at ddiagnosis o alluoedd llythrennedd plant dwyieithog: Rhai ystyriaethau allweddol i athrawon yng Nghymru

Authors: Enlli Thomas (Bangor University) , Carla Marie Owen (Bangor University) , Ffion Hunt (Bangor University) , Nia Young (Bangor University) , Morgan Dafydd (Bangor University) , Lise Fontaine orcid logo (Cardiff University) , Michelle Aldridge-Waddon orcid logo (Cardiff University) , Kirk Sullivan orcid logo (Umeå University) , Sian Wynn Lloyd-Williams (Aberystwyth University) , Gwilym Sion ap Gruffudd orcid logo (Bangor University) , Gareth Caulfield (Prifysgol Bangor)

  • Gweithio tuag at ddiagnosis o alluoedd llythrennedd plant dwyieithog: Rhai ystyriaethau allweddol i athrawon yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Gweithio tuag at ddiagnosis o alluoedd llythrennedd plant dwyieithog: Rhai ystyriaethau allweddol i athrawon yng Nghymru

    Authors: , , , , , , , , , ,

Abstract

Mae un maes sy’n peri pryder o fewn cyd-destun dwyieithog yn ymwneud â’r asesiad ‘diagnostig’ priodol o alluoedd iaith plant dwyieithog a chymhwyso eu canlyniadau asesu’n briodol mewn ymarfer. Mae anawsterau cyfathrebu ac iaith yn niferus a chymhleth, ac yn amlygu eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cael eu cofnodi i wahanol raddau drwy brofion safonedig. Mae adnoddau o’r fath ar gael yn rhwydd – yn aml mewn sawl ffurf – mewn rhai ieithoedd, megis Saesneg, ond nid ydynt ar gael mor rhwydd mewn ieithoedd eraill. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, ac mae hyn yn peri anhawster mawr wrth geisio cynnal math penodol o asesiad o alluoedd iaith penodol. Mae’r papur hwn yn amlinellu cyflwr cyfredol adnoddau asesu diagnostig ar gyfer y Gymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar fesuriadau o alluoedd llythrennedd. Gan fanteisio ar dystiolaeth ymchwil o’r cyd-destun Cymreig, rydym yn dadlau o blaid hyfforddi addysgwyr yn briodol yn y maes hwn, a thros yr angen brys i ddatblygu adnoddau sy’n benodol i iaith a chyd-destun, gyda normau siaradwyr dwyieithog perthnasol, sydd â defnydd ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau diagnosis a chefnogaeth deg a pherthnasol i bob plentyn sy’n cael ei addysgu yng Nghymru.

Keywords: Asesiad iaith plant, Cymraeg, Dwyieithog, Iaith leiafrifol, Addysg ddwyieithog, Anawsterau llythrennedd

How to Cite:

Thomas, E., Owen, C. M., Hunt, F., Young, N., Dafydd, M., Fontaine, L., Aldridge-Waddon, M., Sullivan, K., Lloyd-Williams, S. W., ap Gruffudd, G. S. & Caulfield, G., (2022) “Gweithio tuag at ddiagnosis o alluoedd llythrennedd plant dwyieithog: Rhai ystyriaethau allweddol i athrawon yng Nghymru”, Wales Journal of Education 24(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.2.4cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

158 Views

44 Downloads