Research Articles (Welsh)

Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan

Authors: Luke Jones orcid logo (University of Chester) , Steven Tones (University of Chester) , Gethin Foulkes orcid logo (University of Chester) , Rhys C. Jones orcid logo (Bangor University)

  • Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan

    Research Articles (Welsh)

    Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan

    Authors: , , ,

Abstract

Nod y papur hwn yw archwilio effaith rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd CaBan, sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ddiwygiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Yn fwy penodol, ei nod yw dadansoddi canfyddiadau mentoriaid ac Athrawon Cyswllt (ACau) i ddatblygu dealltwriaeth fwy digonol o’r dull mentora sydd wedi’i fabwysiadu gan CaBan. Defnyddiwyd holiaduron a chyfweliadau grŵp i gynhyrchu data gan 15 o fentoriaid a 48 athro cyswllt - gyda’r astudiaeth yn digwydd yn ystod cam olaf y rhaglen flwyddyn ôl-raddedig. Defnyddiwyd proses o ddadansoddi thematig i nodi a dadansoddi patrymau yn y data. Mae’r dull deialogaidd o fentora sydd wedi’i fabwysiadu gan CaBan wedi ail-lunio’r berthynas rhwng y mentoriaid ac ACau. Anogodd bartneriaeth fwy democrataidd sydd wedi grymuso’r ACau i herio rhai agweddau ar ymarfer a chyflawni gweithredoedd mwy creadigol. Mae adborth a thrafodaethau rheolaidd yn canolbwyntio ar ddysgu ar y cyd wedi helpu i leddfu pryderon ACau am werthuso, ond wedi creu rhywfaint o densiwn hefyd gan fod credoau mentoriaid am addysgeg yn fwy tebygol o gael eu herio. Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau ar gyfer rhaglen CaBan a darparwyr AGA eraill, oherwydd bod mabwysiadu dull deialogaidd wedi arwain at newidiadau dymunol mewn strategaethau mentora. Gwelwyd gwerth yn y newidiadau hyn, ond roeddent yn dibynnu ar y mentoriaid i neilltuo mwy o amser i’r broses ddeialogaidd ac i fod yn llwyr gefnogol i sgyrsiau agored am ddysgu.

Keywords: CaBan, mentora deialogaidd, Athrawon Cyswllt, sgyrsiau dysgu anffurfiol, Addysg Gychwynnol Athrawon

How to Cite:

Jones, L., Tones, S., Foulkes, G. & Jones, R. C., (2022) “Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan”, Wales Journal of Education 24(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.2.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

122 Views

33 Downloads