Research Articles (Welsh)

Dewis Iaith Dramor Fodern fel pwnc TGAU – a oes dewis? Y blychau opsiwn a ffactorau eraill

Author: Delyth Jones (Aberystwyth University)

  • Dewis Iaith Dramor Fodern fel pwnc TGAU – a oes dewis? Y blychau opsiwn a ffactorau eraill

    Research Articles (Welsh)

    Dewis Iaith Dramor Fodern fel pwnc TGAU – a oes dewis? Y blychau opsiwn a ffactorau eraill

    Author:

Abstract

Bwriad yr ymchwil sy’n sail i’r erthygl hon yw adnabod y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddisgyblion wrth ddewis, neu wrth beidio â dewis, astudio iaith dramor fodern fel pwnc TGAU. Yn 2015, cyhoeddwyd y ddogfen Dyfodol byd-eang gan Lywodraeth Cymru i wella ac i hyrwyddo Ieithoedd Tramor Modern (ITM). Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dangos fod y niferoedd sy’n cymryd ITM fel pwnc TGAU yn parhau i ostwng (Cyngor Prydeinig, 2021). Cydnabu’r Gwerthusiad o Dyfodol Byd-Eang (Llywodraeth Cymru, 2022a) na wireddwyd holl nodau’r cynllun strategol yn llawn gan na welwyd cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n astudio ITM ar lefel arholiad. Bydd yr erthygl yma’n canolbwyntio ar un agwedd benodol o’r data a gasglwyd yn y prosiect, sef y ffactorau oedd yn rhwystro disgyblion rhag dewis ITM fel pwnc TGAU. Casglwyd data gan 860 o ddisgyblion mewn 10 ysgol uwchradd a gwelwyd bod rhwystrau ar lefel yr Ysgol, megis blychau opsiwn a’r ffaith nad oedd y pwnc yn rhedeg, yn ffactorau allweddol (Jones, 2021, Clayton, 2022). Roedd y canfyddiad bod y pwnc yn anodd hefyd yn ffactor oedd yn rhwystro disgyblion rhag dewis ITM fel pwnc TGAU a dylid cofio mai trydedd iaith, o leiaf, oedd yr iaith dramor i’r disgyblion yn yr astudiaeth hon (Fukui a Yashmina, 2021). Dadleuir, fel y gwnaeth adroddiad y Cyngor Prydeinig (2021:6), bod angen ‘ymyrraeth frys’ i wrthdroi’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n dewis astudio ITM fel pwnc TGAU. Cynigir rhai argymhellion sut i gynyddu niferoedd a chyfeirir at ystyriaethau megis dewis pynciau opsiwn ym Mlwyddyn 8, setio dosbarthiadau ITM a’r angen am gynllunio mwy bwriadus er mwyn i ddisgyblion weld llwyddiant wrth ddysgu iaith dramor (Ofsted, 2021). Ystyrir hefyd oblygiadau Cwricwlwm i Gymru a’r dulliau amlieithog a lluosieithog a gyflwynir yno fel dulliau o ‘danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr’ (Llywodraeth Cymru, 2022b). 

Keywords: option boxes, Modern Foreign Languages, GCSE

How to Cite:

Jones, D., (2023) “Dewis Iaith Dramor Fodern fel pwnc TGAU – a oes dewis? Y blychau opsiwn a ffactorau eraill”, Wales Journal of Education 25(2): 3, 71-96. doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.2.4

Downloads:
Download PDF
View PDF

314 Views

59 Downloads

Published on
15 Dec 2023
Peer Reviewed