Research Articles (Welsh)

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru: Archwilio’r Dystiolaeth

Authors: Alma Harris (Swansea University School of Education) , Zoe Elder (Swansea University School of Education) , Michelle Suzette Jones (Swansea University School of Education) , Angella Cooze (Swansea University School of Education)

  • Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru: Archwilio’r Dystiolaeth

    Research Articles (Welsh)

    Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru: Archwilio’r Dystiolaeth

    Authors: , , ,

Abstract

CRYNODEB ACADEMAIDD 

Yn system addysg Cymru, mae ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ (YSD) yn parhau i fod yn un o gonglfeini’r polisi addysg presennol. Mae’r erthygl hon yn ystyried rhywfaint o’r sylfaen dystiolaeth allweddol neu (rai o’r sylfeini tystiolaeth allweddol) sy’n cysylltu â’r model YSD yng Nghymru ac sy’n sail iddo. Nid adolygiad o’r llenyddiaeth yw hwn ond yn hytrach trosolwg o’r brif dystiolaeth empirig sy’n atgyfnerthu’r dull YSD yng Nghymru. Mae’r erthygl yn tynnu sylw at y ffaith bod sylfaen dystiolaeth gefnogol ac empirig ar gyfer pob un o 7 dimensiwn model YSD Cymru. Daw i’r casgliad, fodd bynnag, fod angen mwy o ganllawiau ymarferol, yn enwedig ynghylch prosesau gweithredu, i gynorthwyo ysgolion ar eu taith tuag at ddod yn sefydliadau sy’n dysgu cryfach. 

CRYNODEB YMARFEROL 

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yng Nghymru yn ceisio dod yn gymunedau sy’n dysgu cryf. Mae’r erthygl hon yn ystyried y dystiolaeth sy’n sail i’r syniad o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yng Nghymru. Nid adolygiad o’r llenyddiaeth yw hwn ond yn hytrach mae’r erthygl yn edrych ar y sylfaen (sylfeini) tystiolaeth allweddol sy’n cysylltu â’r syniad o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae’r erthygl yn atgyfnerthu’r syniad bod yna sylfaen dystiolaeth gref sy’n cefnogi’r syniad o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yng Nghymru. Mae’n dod i’r casgliad, fodd bynnag, fod angen mwy o ganllawiau ymarferol i helpu ysgolion i symud ymlaen ar eu taith tuag at ddod yn sefydliadau dysgu cryfach.

Keywords: Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, Trawsnewid Ysgolion a Systemau, Newid Addysgol

How to Cite:

Harris, A., Elder, Z., Jones, M. S. & Cooze, A., (2022) “Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru: Archwilio’r Dystiolaeth”, Wales Journal of Education 24(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.1.3cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

352 Views

83 Downloads

Published on
31 May 2022
Peer Reviewed