Research Articles (Welsh)

‘Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad’: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?

Authors: Mirain Rhys orcid logo (Cardiff Metropolitan University) , Kevin Smith orcid logo (Prifysgol Caerdydd)

  • ‘Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad’: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?

    Research Articles (Welsh)

    ‘Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad’: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?

    Authors: ,

Abstract

CRYNODEB ACADEMAIDD 

Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050, strategaeth uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2017). Mae system addysg Cymru yn nodwedd hanfodol bwysig o’r strategaeth hon. Yn 2013, nododd adolygiad o addysgu Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (Davies, 2013) fylchau sylweddol yn y gwaith o baratoi a hyfforddi athrawon i addysgu Cymraeg fel Ail Iaith, ethos Cymraeg gwael mewn llawer o ysgolion, a diffyg cyffredinol o ran adnoddau i gefnogi addysgu’r Gymraeg. Roedd yr argymhellion yn cynnwys sawl dimensiwn gan gynnwys cynnwys y cwricwlwm, ymarfer addysgegol, ac asesu, hyfforddiant ac adnoddau athrawon. Gyda dyfodiad fframwaith cwricwlaidd cenedlaethol newydd (Llywodraeth Cymru, 2015), mae’r astudiaeth hon yn adeiladu ar adolygiad Davies (2013) ac yn rhoi manylion digynsail am ganfyddiadau myfyrwyr o addysgu Cymraeg. Dadansoddwyd data a gynhyrchwyd drwy grwpiau ffocws gyda myfyrwyr gan ystyried damcaniaeth dynameg gr?p Dörnyei, gan roi beirniadaeth ddeifiol o’r nodau ar gyfer addysgu Cymraeg, ymarfer addysgeg athrawon, a’r hyn y mae myfyrwyr yn awgrymu ei fod yn ddiffyg cysylltiad cyffredinol rhwng addysgu Cymraeg a’r defnydd o’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

CRYNODEB YMARFEROL 

Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 ac mae system addysg Cymru’n nodwedd allweddol o’u strategaeth. Mae’r erthygl hon yn rhoi cipolwg ar brofiadau plant ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Edrychodd yr astudiaeth yn fanylach ar addysgu Cymraeg fel ail iaith, yn ogystal â barn myfyrwyr ar y gwersi, a’r iaith ei hun. Amlygodd data grwpiau ffocws fod myfyrwyr yn teimlo bod diffyg cysylltiad rhwng y gwersi Cymraeg yr oeddent yn eu cael yn yr ysgol a’u profiad o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, mae’r gwaith ymchwil hwn yn rhoi cipolwg ar ganfyddiadau myfyrwyr cyfredol.

Keywords: Cymru, addysg ddwyieithog, Ieithoedd lleiafrifol, Cynnal iaith, Adfywio iaith

How to Cite:

Rhys, M. & Smith, K., (2022) “‘Mae popeth yn troi o amgylch yr arholiad’: Beth yw canfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr ysgol uwchradd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru?”, Wales Journal of Education 24(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.1.1cym

Downloads:
Download PDF
View PDF

953 Views

98 Downloads

Published on
30 May 2022
Peer Reviewed