Research Articles (Welsh)

Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru

Author: Alexander Edwin Lovell orcid logo (Prifysgol Abertawe)

  • Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru

    Research Articles (Welsh)

    Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru

    Author:

Abstract

Gyda chyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022 yn prysur agosáu, mae’n amserol trafod un o’r prif ddatblygiadau mewn perthynas â’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd, sef y continwwm iaith. Er mai term sydd wedi’i ddefnyddio’n aml gan academyddion a llunwyr polisi fel ei gilydd yw “continwwm”, mae i’r term sawl dehongliad, nid yn unig yn y llenyddiaeth ar ddwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog, ond hefyd ym mholisi iaith ac addysg Cymru. Diben y papur hwn yw adolygu’r prif ddehongliadau o’r continwwm iaith, cyn cynnig dehongliad amgen, yr hyn y mae’r ymchwilydd yn ei alw’r “continwwm amlgymwyseddau”, sy’n anelu at bontio rhwng y damcaniaethol a’r ymarferol gan gysylltu’r cysyniad o gontinwwm iaith â’r cysyniad o gontinwwm dysgu, fel y’i cydnabyddir yn y cwricwlwm newydd. Trafodir goblygiadau cyflwyno’r continwwm ar gyfer y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn benodol.

Keywords: bilingual education, Curriculum for Wales 2022, addysg ddwyieithog, ail iaith, second language, L2, continwwm iaith, language continuum, cyrchddull amlgymwyseddau, multicompetencies approach, continwwm amlgymwyseddau, multicompetencies continuum, Cwricwlwm i Gymru 2022, dwyieithrwydd, bilingualism, cymraeg, welsh

How to Cite:

Lovell, A. E., (2023) “Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i Gymru”, Wales Journal of Education 25(1): 3. doi: https://doi.org/10.16922/wje.25.1.4

Downloads:
Download PDF
View PDF

579 Views

122 Downloads

Published on
13 Jul 2023
Peer Reviewed