Abstract
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ffyrdd y cyflwynir dewis cyfrwng iaith i ddysgwyr Addysg Bellach yng Nghymru a’i ddylanwad ar eu dewisiadau, gan ddefnyddio egwyddorion economeg ymddygiadol. Mae’r astudiaeth yn dadansoddi un o’r rhesymau dros y nifer isel o ddysgwyr sy’n astudio yn Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector hwn. Mae’n awgrymu argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r ymchwil yn seiliedig ar sampl o bedair ardal wahanol ledled Cymru, gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach, a grwpiau ffocws gyda disgyblion ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol. Mae’r erthygl yn esbonio cyfyngiadau’r model o ‘optio i mewn’ i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gyda’i bwyslais ar roi gwybodaeth i newid ymddygiad, ac yn ymchwilio i gryfderau cymharol y model o ‘optio allan’ o ddarpariaeth o’r fath. Mae’r erthygl yn dadlau o blaid cymhwyso egwyddorion economeg ymddygiadol i ddewis iaith, drwy addasu saernïo dewis. Mae’n argymell newid iaith ragosodedig y ddarpariaeth, gan roi dysgwyr o ysgolion Cymraeg a dwyieithog ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, gyda’r opsiwn o optio allan os dymunant.
Keywords: economeg ymddygiadol, addysg ddwyieithog, Addysg Bellach, dewis iaith, polisi iaith, y Gymraeg
How to Cite:
Davies, L. B., (2021) “Optio i mewn neu optio allan? Sut mae dewis cyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr Addysg Bellach yng Nghymru a pha ddylanwad mae hyn yn ei gael ar eu dewisiadau?”, Wales Journal of Education 23(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.23.1.4cym
Downloads:
Download PDF (Cym)
View PDF