Research Articles (Welsh)

Defnyddio Dull Rhuglder Cyfarwyddiadol i Addysgu Sgiliau Adio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion: Astudiaeth Beilot

Authors: Kaydee Owen , Richard C. Watkins , Michael Beverley , J. Carl Hughes

  • Defnyddio Dull Rhuglder Cyfarwyddiadol i Addysgu Sgiliau Adio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion: Astudiaeth Beilot

    Research Articles (Welsh)

    Defnyddio Dull Rhuglder Cyfarwyddiadol i Addysgu Sgiliau Adio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion: Astudiaeth Beilot

    Authors: , , ,

Abstract

Mae unedau cyfeirio disgyblion (UCD) yng Nghymru yn cynnig lle i blant sy'n arddangos amrywiaeth o anawsterau na ellir eu rheoli o fewn lleoliad prif ffrwd. Nid yw llawer o'r plant sy'n mynychu UCD yng Nghymru yn datblygu'r sgiliau rhifedd sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Er mwyn ceisio addysgu ac asesu sgiliau adio, asesodd yr awduron effeithiau defnyddio cyfuniad o gyfarwyddyd uniongyrchol (CU) ac addysgu manwl (AM) mewn UCD. Dros chwe wythnos ysgol, buom yn gweithio gyda phump o blant (rhwng 7 a 10 oed) ar sail 1:1 drwy'r cwricwlwm adio Corrective Mathematics (Engelmann a Carnine, 2005). Yn dilyn pob gwers, cwblhaodd y plant asesiad rhuglder unigol, a oedd wedi'i deilwra i'w hanghenion gan ddefnyddio dulliau AM. Aethom ati i gasglu data llinell sylfaen a dilynol gan ddefnyddio'r Prawf Gallu Mathemategol Cynnar (TEMA-3), y Prawf Cyflawniad Amrediad Eang (WRAT-4) a'r prawf lleoliad Corrective Mathematics. Cyfwelwyd â'r plant ar ôl yr ymyrraeth hefyd er mwyn cael syniad o'u profiad o'r dull. Mae'r canlyniadau'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r defnydd o ddull rhuglder cyfarwyddiadol mewn lleoliad UCD i helpu plant i ddatblygu sgiliau mathemateg cynnar, yn enwedig ar gyfer plant oedd yn ymgysylltu â'r sesiynau'n rheolaidd. Oherwydd maint bach y sampl, mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn gyfyngedig o ran y gallu i'w cyffredinoli ond gallant helpu i lywio ymchwil yn y dyfodol sy'n ymchwilio i strategaethau effeithiol ar gyfer addysgu mathemateg mewn UCD.

How to Cite:

Owen, K., Watkins, R. C., Beverley, M. & Hughes, J. C., (2020) “Defnyddio Dull Rhuglder Cyfarwyddiadol i Addysgu Sgiliau Adio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion: Astudiaeth Beilot”, Wales Journal of Education 22(2), 69-100. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.2.4

Downloads:
Download PDF
View PDF

129 Views

32 Downloads

Published on
01 Sep 2020
Peer Reviewed