Abstract
Mae'r papur hwn yn adolygu'n systematig y llenyddiaeth ymchwil gyfoes sy'n ymwneud â mentoriaid addysg gorfforol (AG) ym maes addysg gychwynnol i athrawon (AGA). Gan ddefnyddio methodolegau 'Eitemau Adrodd a Ffefrir ar gyfer Adolygiadau Systematig a Phrotocolau Meta- Ddadansoddi' (PRISMA- P), dadansoddwyd erthyglau yn ansoddol gan ddefnyddio dadansoddiad thematig diddwythol mewn perthynas â chynnwys yn ymwneud â thair agwedd graidd ar fentora addysg gorfforol: (i) terminoleg (ii) priodoleddau a (iii) dysgu proffesiynol. Roedd y canfyddiadau'n nodi amrywiadau yn y derminoleg a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig â rôl y mentor addysg gorfforol. Roedd nifer sylweddol o astudiaethau ymchwil a nodwyd yn y chwiliad llenyddiaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu prosesau mentora trwy gydweithredu a dulliau cyd- ymholi. Fodd bynnag, canfu'r adolygiad o lenyddiaeth ddiffyg cyfeiriadau penodol at anghenion dysgu proffesiynol a chyfleoedd ar gyfer mentoriaid addysg gorfforol. Mae'r adolygiad wedi arwain at chwe argymhelliad allweddol, a dau ohonynt yw: (i) dylid dewis mentoriaid addysg gorfforol gan eu bod yn meddu ar briodoleddau priodol i fod yn effeithiol yn y rôl a, (ii) dylid sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i alluogi mentoriaid addysg gorfforol i gydnabod cwmpas y rôl a meithrin eu gallu i ddefnyddio dulliau cydweithredol a seiliedig ar ymholi i gefnogi datblygiad athrawon dan hyfforddiant.
How to Cite:
Bethell, S., Bryant, A. S., Cooper, S. M., Edwards, L. C. & Hodgkin, K., (2020) “Mentora Athrawon Addysg Gorfforol dan Hyfforddiant yng Nghymru: Gwersi Adolygiad Systematig o'r Llenyddiaeth”, Wales Journal of Education 22(2), 26-52. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.2.2cym
Downloads:
Download PDF
View PDF