Research Articles (Welsh)

Newid y Lens: Mapio Datblygiad Ymagweddau Ymchwil mewn Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

Authors: Jane Waters (Wales Journal of Education) , Elaine Sharpling (Wales Journal of Education)

  • Newid y Lens: Mapio Datblygiad Ymagweddau Ymchwil mewn Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

    Research Articles (Welsh)

    Newid y Lens: Mapio Datblygiad Ymagweddau Ymchwil mewn Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

    Authors: ,

Abstract

Mae'r weledigaeth ar gyfer AGA yng Nghymru'n ei gwneud yn ofynnol i Athrawon Newydd Gymhwyso ddeall sut i gynnal ymchwil sy'n 'agos at ymarfer' a gallu defnyddio ymagweddau wedi'u llywio gan dystiolaeth at addysgeg (Furlong, 2016; Llywodraeth Cymru 2018). Mae'r papur hwn yn disgrifio'r prosesau a ddefnyddiodd un bartneriaeth Sefydliad Addysg Uwch ac ysgolion (PDPA) i ddatblygu rhaglenni AGA er mwyn ymateb i'r weledigaeth hon, gan ganolbwyntio'n benodol ar daith yr athro dan hyff orddiant trwy'r gwaith o ddatblygu pedair ymagwedd at ymchwil. Mae'r rhaglenni'n ceisio sicrhau bod myfyrwyr AGA yn datblygu 'saf bwynt ymholgar', gyda hyn yn adlewyrchu dealltwriaeth Cochran-Smith (2011) sy'n defnyddio'r term ymholi i gyfeirio at gwestiynu gan athrawon a'r priod ddull safbwynt i gyfleu cyfeiriad a sefyllfa. Er mwyn ategu'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i fabwysiadu saf bwynt ymholgar, addaswyd gwaith Orchard a Winch (2015) a'i ddistyllu yn bedair ymagwedd ar gyfer yr athro dan hyfforddiant a nodwyd camau cynnydd ar gyfer gwahanol lefelau o astudio. Mae'r ymagweddau ymchwil a gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac ymddygiad cysylltiedig wedi'u mapio trwy gynnwys y modiwlau ym mhob rhaglen AGA a gynigir. Rydym yn cynnwys ystyr iaeth o'r tensiynau sy'n amlwg yn natblygiad cynnwys manwl modiwlau ac yn dychmygu y gall y rhain fod yn ganlyniad anochel i arfer proffesiynol o berfformiadoldeb sy'n ganlyniad i systemau addysg a lywiwyd yn hanes yddol gan strwythurau atebolrwydd.

How to Cite:

Waters, J. & Sharpling, E., (2020) “Newid y Lens: Mapio Datblygiad Ymagweddau Ymchwil mewn Rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)”, Wales Journal of Education 22(1), 165-184. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.8

Downloads:
Download PDF
View PDF

146 Views

59 Downloads

Published on
01 Mar 2020
Peer Reviewed