Research Articles (Welsh)

Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru

Authors: Malcolm Thomas (Prifysgol Aberystwyth) , Barry Rees (Cyngor Sir Ceredigion) , Gareth Emyr Evans (Ysgol Bro Teif) , Nicola Thomas (Ysgol Uwchradd Crug Hywel) , Clive Williams (Yr Ysgol Gymraeg Aberystwyth) , Berian Lewis (Ysgol Plascrug) , Daryl Phillips (Ysgol Uwchradd y Trallwng) , Allyson Hand (Ysgol Uwchradd Crug Hywel) , Siân Bowen (Cyngor Sir Ceredigion) , Andrew Davies orcid logo (Prifysgol Aberystwyth) , Prysor Mason Davies orcid logo (Prifysgol Aberystwyth) , Susan Chapman orcid logo (Prifysgol Aberystwyth) , Mike Reed (Ysgol Uwchradd Aberteif) , Manon Lewis (Prifysgol Aberystwyth)

  • Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru

    Authors: , , , , , , , , , , , , ,

Abstract

Mae'r papur hwn yn amlinellu datblygiad un rhaglen AGA integredig sy'n arwain at ddau lwybr SAC: Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd gyda Chyfoethogi Uwchradd; a Thystysgrif Addysg i Raddedigion Uwchradd gyda Chyfoethogi Cynradd. Mae rhaglen AGA integredig Dysgu Aber+ yn galluogi athrawon i 'addysgu y tu hwnt i'r ffiniau ar gyfer profiad cyfannol'. Mae'r papur yn adolygu fframwaith cysyniadol y rhaglen a'i hathroniaeth ddysgu ac wrth wneud hynny mae'n ystyried yr egwyddorion craidd a ddylanwadodd ar gynllun y rhaglen, fel a ganlyn: Partneriaeth Gynhwysol; Addysgeg Effeithiol; Addysgeg Integredig; Addysgeg Arbenigol ac wedi'i Chyfoethogi; Addysgeg a Rennir ac Adfyfyriol; Diwylliant Ymchwil Gwirioneddol Gydweithredol, Atebolrwydd Democrataidd ac wyth egwyddor yr Athroniaeth Ddysgu. Mae'r papur yn mynd ymlaen i esbonio sut mae'r rhaglen integredig yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng dull hwb clwstwr ar draws 5 rhanbarth hwb yng Nghanolbarth Cymru. Wrth wneud hyn, mae'n amlinellu rôl staff y Brifysgol a Phrif fentoriaid a mentoriaid Ysgolion Partner yn ogystal ag isafswm y gofynion ar gyfer athrawon dan hyfforddiant tra'u bod ar brofiad yn yr ysgol. Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i ddarpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â rôl ganolog ymchwil o fewn y Bartneriaeth AGA gyfan. Mae'r papur yn cloi drwy ystyried beth sy'n arloesol am y rhaglen a'r manteision sy'n dod i'r athrawon dan hyfforddiant wrth ddilyn y rhaglen.

How to Cite:

Thomas, M., Rees, B., Evans, G. E., Thomas, N., Williams, C., Lewis, B., Phillips, D., Hand, A., Bowen, S., Davies, A., Davies, P. M., Chapman, S., Reed, M. & Lewis, M., (2020) “Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru”, Wales Journal of Education 22(1), 114-141. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.6

Downloads:
Download PDF
View PDF

320 Views

88 Downloads

Published on
29 Feb 2020
Peer Reviewed