Research Articles (Welsh)

Gwneud Pethau'n Wahanol: Ymateb i 'broblem polisi' Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru

Authors: Trevor Mutton orcid logo (Prifysgol Rhydychen) , Katharine Burn orcid logo (Prifysgol Rhydychen)

  • Gwneud Pethau'n Wahanol: Ymateb i 'broblem polisi' Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru

    Research Articles (Welsh)

    Gwneud Pethau'n Wahanol: Ymateb i 'broblem polisi' Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru

    Authors: ,

Abstract

Mewn ymateb i gyfiawnhad clir dros ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru (Furlong, 2015) mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau darpariaeth drwy 'system wirioneddol gydweithredol, lle mae prifysgolion ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gref, gyda chefnogaeth y consortia, gan gydnabod pwysigrwydd gwaith ymchwil' (Williams, 2017: 1). Roedd cyhoeddi'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2017) yn amlinellu'r gofynion ar gyfer pob rhaglen AGA, gan bwysleisio'r angen am ymagwedd integredig tuag at ddysgu athrawon dan hyfforddiant o fewn modelau cydweithredol sy'n cael eu llywio gan ymchwil ar bob lefel. Gan ddefnyddio model deinamig Vidovich (2007) o ddadansoddi polisi, sy'n cymryd i ystyriaeth ddylanwadau ar gynhyrchu testun polisi ar lefelau macro, canolradd a micro, mae'r papur yn archwilio'r broses a ddefnyddiwyd i gynnig a rhoi ar waith y diwygiadau penodol hyn (yn edrych ar gyfnod o chwe blynedd rhwng 2013 a 2019) a'r ffyrdd y mae darparwyr sydd wedi eu hachredu'n ddiweddar yng Nghymru wedi dechrau ymateb i'r agenda heriol y maen nhw'n ei chynrychioli. Mae'r papur yn cloi drwy gynnig golwg ar beth allai'r cyfleoedd a'r heriau fod i ddarparwyr AGA yng Nghymru yn nhermau datblygu ymhellach fodelau o ymarfer clinigol wedi'u llywio gan ymchwil.

How to Cite:

Mutton, T. & Burn, K., (2020) “Gwneud Pethau'n Wahanol: Ymateb i 'broblem polisi' Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru”, Wales Journal of Education 22(1), 85-113. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.5

Downloads:
Download PDF
View PDF

211 Views

60 Downloads

Published on
01 Mar 2020
Peer Reviewed