Abstract
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dros y deugain mlynedd diwethaf, ac yn enwedig ar ddadansoddiadau o atebolrwydd paratoi athrawon yn yr Unol Daleithiau, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Prosiect TEER (Teacher Education and Education Reform), sef grŵp o addysgwyr, ymchwilwyr ac ysgolheigion ym maes addysg athrawon yng Ngholeg Boston. Yr hyn a unai aelodau'r grŵp oedd pryder cynyddol ynglŷn â chyfeiriad y diwygiadau addysg a'r effaith ar addysg athrawon yn UDA ac ymrwymiad i degwch i bob myfyriwr yn ysgolion y wlad. Am bum mlynedd, buom yn olrhain y gwaith o ddiwygio addysg athrawon yn UDA, gan ganolbwyntio ar y prif fentrau atebolrwydd a oedd yn llywio'r maes. Ffrwyth terfynol y gwaith hwn oedd y llyfr Reclaiming Accountability in Teacher Education (Cochran-Smith et al ., 2018). Gan bwyso ar y gwaith hwn ac ar fy mhrofiad yn y cymunedau addysg athrawon cenedlaethol a rhyngwladol, mae tri diben i'r erthygl hon: cyflwyno fframwaith ar gyfer datgloi polisïau atebolrwydd yn ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon; defnyddio'r fframwaith hwnnw i ddisgrifio'n gryno'r prif baradeim atebolrwydd yn UDA a dewis amgen i'r prif baradeim – atebolrwydd democrataidd mewn addysg athrawon; ac yn olaf, defnyddio syniadau o'r fframwaith ac o'n dadansoddiadau yn UDA i wneud sylwadau ar y broses o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd.
How to Cite:
Cochran-Smith, M., (2020) “Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor”, Wales Journal of Education 22(1), 61-84. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.4
Downloads:
Download PDF
View PDF