Abstract
Mae'r rhifyn arbennig hwn yn canolbwyntio ar y newidiadau i Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a wnaed yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth graidd y dull newydd hwn mae'r haeriad y dylai pob rhaglen AGA yn y dyfodol gael ei chynllunio, ei harwain a'i darparu nid gan brifysgolion yn unig, ond gan brifysgolion mewn cydweithrediad agos ag amryw o ysgolion partner. Ond beth yw'r cyfiawnhad am y newidiadau radical hyn? Pam mae angen dull cydweithredol rhwng prifysgolion ac ysgolion? Mae'r papur hwn, sydd ar ffurf adolygiad personol o'r llenyddiaeth, yn amlinellu'r dystiolaeth ymchwil a ddefnyddiais wrth gyfrannu at y broses ddiwygio. Mae'n ystyried tystiolaeth ar dri mater: rôl ysgolion; rôl prifysgolion; a'r ffyrdd y gallant weithio gyda'i gilydd yn effeithiol.
How to Cite:
Furlong, J., (2020) “Ailffurfio Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Adolygiad Personol o'r Llenyddiaeth”, Wales Journal of Education 22(1), 38-60. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.3
                                    Downloads:
                                    
                                        
                                            Download PDF
                                            
                                            
                                                View PDF
                                            
                                        
                                        
452 Views
146 Downloads
                                                    Published on 
                                                    2020-03-01
                                                
Peer Reviewed
