Research Articles (Welsh)

Diwygio AGA ym Mhrifysgol Glasgow: Egwyddorion, Sylfaen Ymchwil a Goblygiadau

Author: Beth Dickson (Wales Journal of Education)

  • Diwygio AGA ym Mhrifysgol Glasgow: Egwyddorion, Sylfaen Ymchwil a Goblygiadau

    Research Articles (Welsh)

    Diwygio AGA ym Mhrifysgol Glasgow: Egwyddorion, Sylfaen Ymchwil a Goblygiadau

    Author:

Abstract

Cafodd addysg gychwynnol i athrawon y Gyfadran Addysg ym Mhrifysgol Glasgow ei diwygio ar sail ymchwil gyfredol o fewn seilwaith addysgol aeddfed. O fewn y brifysgol defnyddiwyd gwybodaeth ymchwil mewn dwy ffordd: awgrymodd ymchwil ar addysg athrawon y gallai ymholi ddod yn agwedd allweddol ar hunaniaeth athrawon; ac roedd yn nodi'r angen am gwricwlwm ar gyfer athrawon cyngwasanaeth mewn ysgolion. Felly rhoddwyd lle canolog i ddysgu drwy ymholi mewn ysgolion ac roedd tair elfen i'r cwricwlwm newydd yn yr ysgol: seminarau; dysgu gan gymheiriaid drwy gylchoedd dysgu; ymweliadau a asesir ar y cyd. Cafodd y datblygiadau arloesol hyn eu hatgyfnerthu'n gadarnhaol gan Teaching Scotland's Future (Donaldson, 2011). Mae gan y gyfres hon o ddiwygiadau oblygiadau i Gymru a gellir eu dadansoddi'n fuddiol yn erbyn y meddylfryd deuaidd sy'n dominyddu'r trafodaethau mewn addysg athrawon; a barn Williams am fregusrwydd diwylliant datblygol. Caiff pedair system ddeuaidd eu nodi a'u hail-gysyniadu: systemau deuaidd amser, gofod, cynnwys a phersonau. Caiff system ddeuaidd amser (addysg gychwynnol ac addysg barhaus i athrawon) ei hystyried yn broses gydol gyrfa); caiff system ddeuaidd gofod (ysgol a phrifysgol) ei hail-lunio fel trydydd gofod; caiff system ddeuaidd cynnwys (theori ac ymarfer) ei hail-lunio fel gwahanol ffurfiau o wybodaeth yn treiddio gofod ac amser; a chaiff system ddeuaidd personau (addysgwr athrawon mewn prifysgol ac athro cyngwasanaeth) ei hail-lunio fel triawd sy'n gosod y tri mewn deialog. Mae goblygiadau yn cynnwys ystyriaeth ddyfnach o athrawon yn dysgu gydol eu gyrfa; a rôl yr addysgwr athrawon. Gallai'r ymarfer datblygol hwn gael ei anwybyddu o blaid ymarfer dominyddol.

How to Cite:

Dickson, B., (2020) “Diwygio AGA ym Mhrifysgol Glasgow: Egwyddorion, Sylfaen Ymchwil a Goblygiadau”, Wales Journal of Education 22(1), 257-281. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.12

Downloads:
Download PDF
View PDF

120 Views

31 Downloads

Published on
01 Mar 2020
Peer Reviewed