Abstract
Yn sgil diwygio'r sector addysg yng Nghymru, mae partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru wedi wynebu heriau cysyniadol ac ymarferol wrth orfod dylunio rhaglenni AGA newydd y gellir eu hachredu ar lefel genedlaethol yn unol â'r argymhellion a nodwyd gan yr Athro John Furlong yn 2015. Roedd y diwygiadau hyn yn gofyn am ailfeddwl AGA ar draws y system, yn seiliedig ar athroniaeth ar gyfer darpariaeth newydd. Mae'r erthygl hon yn amlinellu dull o gyflwyno AGA a ysbrydolwyd gan waith Lee Shulman (2005) a ddadleuodd y dylai addysg athrawon roi'r flaenoriaeth i gaffael tri arferiad, yn cyfateb i 'beth', 'felly beth' a 'pwy' addysgu, sef dealltwriaeth o'ch hunaniaeth, ethos a chymeriad proffesiynol. Rydym yn disgrifio model addysgegol ar gyfer mewnblannu'r egwyddorion hyn mewn AGA, yn seiliedig ar waith Parker, Patton ac O'Sullivan (2016). Yn olaf, rydym yn ystyried y goblygiadau i fentoriaid a darlithwyr, gan nodi'n benodol yr angen i weld holl aelodau'r bartneriaeth AGA fel dysgwyr, er mwyn sicrhau modelau rôl effeithiol ar gyfer athrawon cychwynnol, a hefyd i aros yn ffyddlon i'r egwyddor a nodir yn namcaniaeth datblygiad cymdeithasol (Vygotsky, 1978) bod dysgu'n rhyngweithiol ac yn symbiotig.
How to Cite:
Daly, C., James, J., Jones, C., Taylor, L., Wegener, K. & George, C., (2020) “Datblygu Hunaniaeth ac Ethos Proffesiynol trwy Ymchwil ac Ymarfer ym maes Addysg Gychwynnol i Athrawon: Dull Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru”, Wales Journal of Education 22(1), 233-256. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.11
Downloads:
Download PDF
View PDF