Research Articles (Welsh)

Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion

Authors: Ceri Pugh , Emma Thayer , Thomas Breeze , Gary Beauchamp , Judith Kneen , Sharne Watkins , Bethan Rowlands

  • Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion

    Research Articles (Welsh)

    Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion

    Authors: , , , , , ,

Abstract

Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd cynyddol ymchwil ar gyfer athrawon ac athrawon dan hyfforddiant, datblygodd Partneriaeth Caerdydd fodel lle byddai 'Hyrwyddwr Ymchwil' yn yr ysgol yn rhan annatod o'r gefnogaeth ar gyfer meithrin gallu a datblygu rhagoriaeth. Er i'r model hwn gael ei ddefnyddio ar ffurfiau gwahanol eisoes ym Mhrifysgolion Rhydychen a Manceinion, roedd y rôl yn newydd i ysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig un-i-un gyda sampl cynrychiadol o hyrwyddwyr ymchwil mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a staff prifysgol i adfyfyrio ar yr heriau a'r cyfleoedd yn ystod dyddiau cynnar datblygu'r rôl unigryw hon mewn cyddestun addysgol esblygol yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn defnyddio data o'r cyfweliadau hyn i sefydlu syniadau allweddol ynglŷn â datblygiad rôl yr hyrwyddwr ymchwil, y newid yn y berthynas waith rhwng ysgolion a phrifysgolion a'r hyn sydd ei angen i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer. Trawsgrifiwyd y cyfweliadau ac, yn dilyn dadansoddi thematig penagored, nodir y cyfleoedd a'r heriau. Mae'r themâu hyn yn cynnwys: pontio'r bwlch rhwng ymchwil addysgol ac ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth; y mathau o wybodaeth mae athrawon yn pwyso arnynt; newidiadau mewn rôl ac hunaniaeth. Cynigir awgrymiadau am ymchwil pellach i fonitro datblygiad y rôl yn barhaus.

How to Cite:

Pugh, C., Thayer, E., Breeze, T., Beauchamp, G., Kneen, J., Watkins, S. & Rowlands, B., (2020) “Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion”, Wales Journal of Education 22(1), 185-208. doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.9

Downloads:
Download PDF
View PDF

116 Views

37 Downloads

Published on
01 Mar 2020
Peer Reviewed