Research Articles (Welsh)

Arweinyddiaeth yn y Sector Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog: Yr heriau arbennig sy'n wynebu penaethiaid a darpar- benaethiaid mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Author: Arwel George (Wales Journal of Education)

  • Arweinyddiaeth yn y Sector Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog: Yr heriau arbennig sy'n wynebu penaethiaid a darpar- benaethiaid mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

    Research Articles (Welsh)

    Arweinyddiaeth yn y Sector Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog: Yr heriau arbennig sy'n wynebu penaethiaid a darpar- benaethiaid mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

    Author:

Abstract

Mae'r erthygl hon yn cynnig amlinelliad o dwf ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ers agor yr ysgol gyntaf yn 1956. Ochr yn ochr â'r twf hwnnw sefydlwyd cymdeithas broffesiynol i gynnig modd i'r ysgolion gadw mewn cyswllt â'i gilydd. Yn y dyddiau cynnar ei theitl oedd Cymdeithas Prifathrawon Dros Addysg Gymraeg (CPDAG) ond yn ystod y degawdau diweddar esblygodd i fod yn Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG). Dylid nodi mai nid corff undebol yw CYDAG ond, yn hytrach, cymdeithas broffesiynol sy'n cefnogi a hybu buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Erbyn hyn, sefydlwyd cangen gynradd o CYDAG hefyd ond o bersbectif CYDAG uwchradd yr ysgrifennwyd yr erthygl hon. Mae'r erthygl yn nodi dwy brif agwedd o'r rôl y chwaraeodd y gymdeithas. Ar un llaw, darparodd y gymdeithas gynhaliaeth broffesiynol i athrawon, rheolwyr canol ac uwch rheolwyr trwy gynnal nifer sylweddol o gyfarfodydd proffesiynol un-dydd. Roedd y rhaglenni yn cynnig sesiynau i athrawon i rannu arfer dda o fethodoleg llawr dosbarth o fewn y pynciau craidd ac all-graidd. Cynigiodd sesiynau eraill themâu oedd yn berthnasol i reolwyr canol ac uwch megis deall a defnyddio data, dulliau hunanarfarnu ac asesu ar gyfer dysgu. Yn ddiweddar trefnwyd bod cynrychiolwyr o nifer fechan o ysgolion CYDAG yn ymweld ag ysgolion a gydnabuwyd i fod yn rhai llwyddiannus iawn gan gynnwys ysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn dilyn yr ymweliadau strwythuredig hyn roedd yr ysgolion yn arwain sesiynau rhannu a thrafod arferion rheolaeth da yng nghynadledd flynyddol CYDAG. Ochr yn ochr â hynny, rôl bwysig arall y chwaraeodd CYDAG oedd ymateb i ddogfennaeth ymgynghorol gan y llywodraeth a chyrff cenedlaethol eraill er mwyn ceisio sicrhau bod buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael eu cynnwys wrth i bolisïau gael eu datblygu a'u gweithredu yn genedlaethol. Trefnodd y gymdeithas gyfarfodydd rheolaidd gyda gweinidogion addysg, uwch weision sifil, arweinwyr cyrff megis Estyn, CBAC a Cymwysterau Cymru. Prif nod y cyfarfodydd hyn oedd hybu deialog adeiladol gyda'r cyrff hyn er mwyn ehangu dealltwriaeth o sut mae polisïau yn effeithio ar y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ceisiwyd hefyd gynnig cymorth i'r cyrff i gyfathrebu gydag aelodau CYDAG ac i fynychu cyfarfodydd un- dydd a'r gynhadledd flynyddol er mwyn cyfathrebu'n uniongyrchol â'r aelodau. I'r un perwyl mae rhannau olaf yr erthygl hon yn nodi'r materion sydd yn gwasgu ar dimau rheolaethol ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae nifer o'r rhain yn gyffredin i'r gwasgfeydd sydd yn wynebu pob ysgol uwchradd beth bynnag bo cyfrwng yr addysgu ond maent o berthnasedd arbennig yn y sector Cymraeg oherwydd natur arbennig y sector hwnnw.

How to Cite:

George, A., (2018) “Arweinyddiaeth yn y Sector Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog: Yr heriau arbennig sy'n wynebu penaethiaid a darpar- benaethiaid mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog”, Wales Journal of Education 20(2), 138-156. doi: https://doi.org/10.16922/wje.20.2.8

Downloads:
Download PDF
View PDF

205 Views

49 Downloads

Published on
01 Nov 2018
Peer Reviewed