Abstract
Mae sgiliau iaith lafar – neu ‘llafaredd’ – yn rhagfynegwyr aml o lwyddiannau academaidd a llwyddiannau bywyd plant maes o law (Y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Lafaredd, 2021). Cysylltir sgiliau llafaredd da â gallu gwell i ddarllen (Bialystok, 2007). Ond mae nifer o blant yn cael anhawster i ennill sgiliau llafaredd yn ddigonol, a dengys hyn fod angen darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn i athrawon allu meddu ar strategaethau defnyddiol ar gyfer datblygu sgiliau llafaredd disgyblion yn yr ysgol. Mae’r astudiaeth hon yn gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen Ein Llais Ni (ELIN), sef rhaglen weithredu seiliedig ar ddylunio a gyflwynwyd mewn naw deg pump o ysgolion cyfrwng Cymraeg fel ffurf ar Ddysgu Proffesiynol Cydweithredol i gynorthwyo athrawon trwy gyfrwng mentora a hyfforddiant. Cafodd y rhaglen hon ei chyd-ddatblygu a’i chyflwyno trwy gyfrwng model partneriaeth cydweithredol er mwyn datblygu sgiliau llafaredd disgyblion yn y Gymraeg.
Gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig, holwyd deuddeg o athrawon o blith saith o ysgolion cynradd ac uwchradd ynglŷn â’u profiadau o’r rhaglen ELIN yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen. Er bod athrawon yn wynebu amrywiaeth o heriau ieithyddol, dangosodd y dadansoddiad thematig o’r cyfweliadau eu bod yn mawrbrisio’r cyfle i gael bod yn rhan o raglen gydweithredol a anelai at gyflawni nod cyffredin. Yn arbennig, roeddynt yn mawrbrisio’r pwyslais a rydd y rhaglen ar gydweithredu proffesiynol ac argaeledd digwyddiadau ac adnoddau amrywiol. Nodwyd peth ansicrwydd cychwynnol mewn perthynas â’u rolau a’u disgwyliadau, ond ni fwriodd yr ansicrwydd hwnnw gysgod ar yr effaith gadarnhaol a oedd yn gysylltiedig â bod yn rhan o’r rhaglen.
Yn gyffredinol, soniodd yr athrawon am welliannau yn sgiliau llafaredd y disgyblion ac yn eu hymarfer eu hunain. Ond hefyd, mynegwyd peth ansicrwydd ynglŷn ag agweddau ar hunanwerthuso eu hymarfer, gan awgrymu bod angen canllawiau cliriach yn y maes hwn er mwyn cyfoethogi’r rhaglen ymhellach.
Keywords: y Gymraeg, llafaredd, llythrennedd, ymchwil seiliedig ar ddylunio, ymchwil weithredu seiliedig ar ddylunio, dysgu proffesiynol cydweithredol
How to Cite:
Thomas, E., Caulfield, G., Roberts, C. & Hughes, O., (2026) “Profiadau byw athrawon o Ddysgu Proffesiynol Cydweithredol ar gyfer datblygu sgiliau llafaredd yn y Gymraeg: mewnwelediadau o raglen Ein Llais Ni, sef rhaglen seiliedig ar ddylunio”, Wales Journal of Education 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.794cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
23 Views
4 Downloads