Abstract
Mae mentora yn elfen graidd o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n llywio hunaniaeth broffesiynol, hyder, a pharodrwydd ar gyfer y dosbarth ymhlith athrawon cychwynnol. Yng Nghymru ac mewn mannau eraill, mae pryderon hirsefydlog am ansawdd mentora. Wrth lunio’r papur hwn, rydym yn ystyried elfennau o’r gorffennol y gellir eu defnyddio, ac mae’r papur yn archwilio pam mae mentora yn heriol a beth y gellir ei ddysgu o’r gorffennol. Mae’r astudiaeth yn defnyddio dadansoddiad dogfennol o adroddiadau arolygu a dogfennau polisi. Mae’r dadansoddiad yn datgelu, er bod y berthynas rhwng sefydliadau addysg uwch ac ysgolion wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan dros amser, nid ydynt wedi bod yn ddigonol er mwyn sicrhau ansawdd mentora effeithiol parhaus ar draws partneriaethau AGA. Yn hytrach, mae ffactorau cenedlaethol, rhanbarthol, ysgol ac unigol yn aml wedi cyfuno i rwystro cynnydd a chyfrannu at brofiadau anwastad i athrawon dan hyfforddiant. Mae’r papur yn nodi themâu parhaol ac yn cloi gydag argymhellion i wella statws proffesiynol, tegwch a chydlyniad mentora yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at yr angen am ddull cenedlaethol cydgysylltiedig i alinio polisi, partneriaethau ac amodau mewn ysgolion i gryfhau mentora ar draws y sector.
Keywords: mentora, addysg gychwynnol athrawon (AGA), arolygiad, estyn, gorffennol y gellir ei ddefnyddio
How to Cite:
Grigg, R., (2026) “Materion Mentora: Safbwyntiau’r Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol ar fentora mewn Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru”, Wales Journal of Education 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.764cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
24 Views
4 Downloads