Abstract
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn gyfreithiol orfodol i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru, ac eto mae diffyg hawl genedlaethol ddiffiniedig o safbwynt amser ar ei gyfer a’i gyflwyniad yn creu paradocs tyngedfennol. Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y mae amwyster o ran canllawiau gweithredol yn tanseilio tegwch, cynnydd, a dibenion dinesig, yn enwedig ar ôl dileu’r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol byr. Gan ddefnyddio fframweithiau statudol, cyd-destun hanesyddol, ac ymchwil y sector, mae’r dadansoddiad yn nodi gwendidau systemig: darpariaeth dameidiog, erydiad arbenigedd pwnc, a dallbwyntiau o ran atebolrwydd. Mae’r erthygl wedi ei threfnu’n bedwar cam. Yn gyntaf, mae’n olrhain esblygiad a sylfaen statudol CGM; yn ail, mae’n archwilio sut y mae amwyster yn cael ei amlygu mewn modelau cyflwyno ac yn effeithio ar degwch; yn drydydd, mae’n cymharu’r trefniadau cyfredol â fframweithiau blaenorol ac yn ystyried risgiau ym Mlynyddoedd 10–11; ac yn bedwerydd, mae’n gwerthuso integreiddiad trawsgwricwlaidd a’i oblygiadau ar gyfer llythrennedd dinesig. Mae’r erthygl yn cloi drwy gynnig pecyn cytbwys o ddiwygiadau – gan gynnwys hawl isafswm amser cenedlaethol, arolygu mwy cadarn, canllawiau pontio ar gyfer Blynyddoedd 10–11, a buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol – er mwyn sicrhau bod ‘gorfodol’ yn gyfystyr â dysgu ystyrlon a theg i bob dysgwr yng Nghymru.
Keywords: Cwricwlwm i Gymru, crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM), hawl statudol, amser y cwricwlwm, tegwch a chynnydd ym maes addysg, integreiddio trawsgwricwlaidd
How to Cite:
Huskinson, L., Evans-Jones, G., Andrews, J. & Healand-Sloan, R., (2026) “Gorfodol ond Heb ei Ddiffinio: Pam mae angen Hawl Genedlaethol Glir ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yng Nghymru”, Wales Journal of Education 28(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.853cym
Downloads:
Download PDF
View PDF
25 Views
4 Downloads