Skip to main content
Focus on Practice (Welsh)

Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr

Authors
  • Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr

    Focus on Practice (Welsh)

    Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr

    Authors

Abstract

Mae’r erthygl hon yn adrodd ar astudiaeth ansoddol a gynhaliwyd o fewn rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau sy’n darparu cymwysterau iechyd a gofal ledled Cymru. Er bod llawer o brentisiaid yn dechrau gyda sgiliau Cymraeg, canfu monitro mewnol mai dim ond lleiafrif a gwblhaodd eu prentisiaeth yn ddwyieithog neu’n Gymraeg, gan adlewyrchu’r gyfradd gwblhau genedlaethol o ddim ond 32 y cant (Stats Cymru, 2025). Roedd hyn yn destun pryder sylweddol o ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, a’r angen i’r gweithlu iechyd a gofal fodloni Safonau’r Gymraeg a darparu’r Cynnig Rhagweithiol. Felly, cynhaliwyd yr astudiaeth i ddeall sut roedd prentisiaethau dwyieithog yn cael eu dehongli o fewn y rhwydwaith ac i ymchwilio i’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewisiadau iaith prentisiaid. 

Gwnaed dadansoddiad thematig o gyfweliadau lled-strwythuredig gydag ymarferwyr a phrentisiaid sy’n siarad Cymraeg. Datgelodd y canfyddiadau ddehongliadau wedi’u harwain gan ddysgwyr o ddarpariaeth ddwyieithog, anghysondebau mewn diffiniadau sefydliadol, a dylanwad sylweddol hyder staff, diwylliannau iaith yn y gweithle, ac ofnau prentisiaid ynghylch Cymraegysgrifenedig. Mae’r erthygl yn nodi goblygiadau ar gyfer gwelliannausefydliadol ac yn cyfrannu mewnwelediadau sector cyfan i gryfhau llwybrauprentisiaeth cyfrwng Cymraeg.

Keywords: prentisiaethau dwyieithog, cyfrwng Cymraeg, trawsieithu, iechyd a gofal, dewis dysgwyr

How to Cite:

Beckett, J. & Ayres, J. A., (2026) “Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr”, Ffocws ar Ymarfer (Cylchgrawn Addysg Cymru), doi: https://doi.org/10.16922/ffocws20 

Downloads:
Download PDF
View PDF

17 Views

2 Downloads